Catuvellauni: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
ehangu
Llinell 10:
Ail-gipiwyd Camulodunum gan Tasciovanus neu gan ei fab [[Cunobelinus]], a'i dilynodd ar yr orsedd tua [[9]] OC. Yn ddiweddarach daeth Cunobelinus yn ffigwr pwysig yn hanesion [[Sieffre o Fynwy]]. Ymddengys mai'r Catuvellauni oedd y llwyth cryfaf yn ne-ddwyrain Lloegr yn y cyfnod yma, ac enillodd brawd Cunobelinus, [[Epaticcus]], diriogaeth oddi wrth yr [[Atrebates]].
 
Cofnodir tri mab i Cunobelinus, [[Adminius]], a alltudiwyd gan ei dad ychydig cyn [[40]] OC, [[Togodumnus]] a [[Caradog]] (Caratacus). Ymddengys i Garadog frwydro yn erbyn llwyth cyfagos yr [[Atrebates]] a’u gorchfygu. Ffôdd Verica, brenin yr Atrebates, i [[Rhufain|Rufain]] ac apeliodd i’r ymerawdwr [[Claudius]] am gymorth i adennill ei deynas. Rhoddodd hyn esgus i Claudius ymosod ar Ynys Prydain yn [[43]] OC.

Pan laniodd y Rhufeiniaid dan [[Aulus Plautius]], gwrthwynebwyd hwy gan Togodumnus a Caradog. Gorchfygwyd hwy gan Plautius mewn dwy frwydr ar [[Afon Medway]] ac Afon Tafwys, a lladdwyd Togodumnus. Ffodd Caradog tua'r gorllewin at y llwythau Cymreig, yn gyntaf y [[Silwriaid]] ac yna'r [[Ordoficiaid]], cyn cael ei orchfygu gan
[[Publius Ostorius Scapula]] yn [[51]]. Ffodd Caradog at y [[Brigantes]], ond trosglwyddodd eu brenhines, [[Cartimandua]], ef yn garcharor i'r Rhufeiniaid.