Jacob van Ruisdael: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
B →‎top: clean up
Llinell 21:
Roedd tri o'i deulu'n arlunwyr deheuig, gan gynnwys ei dad [[Isaack van Ruisdael]], ei ewyrth adnabyddus [[Salomon van Ruysdael]] a'i gefnder a alwyd hefyd yn Jacob Salomonsz van Ruysdael. Nid yw pob llun o'r cyfnod wedi'i arwyddo, na'i ddyddio, a gall adnabod perchnogaeth rhai o'r lluniau fod yn faen tramgwydd i'r beirniad celf.<ref>{{cite web|title=Union list of artist names|url=http://www.getty.edu/vow/ULANFullDisplay?find=ruisdael&role=&nation=&prev_page=1&subjectid=500027077|publisher=[[J. Paul Getty Trust]]|accessdate=24 Hydref 2015}}</ref>
 
O 1646 ymlaen, tirluniau o'r [[Iseldiroedd]] oedd thema'r rhan fwyaf o baentiadau Ruisdael, a'r rheiny o safon uchel. Yna daeth cyfnod o ddylanwad Almaenig, wedi iddo ymweld â'r wlad honno, gyda'r paentiadau'n fwy 'arwrol'. Ar ddiwedd ei oes, wrth weithio o [[Amsterdam]], cafwyd tirluniau mwy dinesig eu naws a golygfeydd glan y môr, lle roedd yr awyr yn aml yn cymryd dros ddau draean o'r llun. Ei unig ddisgybl nodedig y gwyddom amdano oedd Meindert Hobbema.
 
Ychydig iawn y teithiodd, gyda'r rhan fwyaf o'i waith yn yr Iseldiroedd a'r Almaen,<ref name=RKD>{{cite web|title=Jacob van Ruisdael in the RKD (Netherlands Institute for Art History)|url=https://rkd.nl/en/explore/artists/record?query=ruisdael&start=0|publisher=[[Netherlands Institute for Art History]]|accessdate=8 October 2015}}</ref> ac er bod ganddo nifer o dirluniau o [[Norwy]], nid oes tystiolaeth iddo erioed deithio yno.{{sfn|Slive|2001|p=153}}