Lead Belly: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
B clean up
Llinell 46:
Ganwyd Huddie William Ledbetter ar Blanhigfa Jeter ger Mooringsport, Louisiana, naill ai ym mis Ionawr 1888 neu 1889. Cofnodir bachgen 12 mlwydd oed o'r enw "Hudy Ledbetter", ganwyd Ionawr 1888, gan gyfrifiad cenedlaethol 1900, a mae'i oedran a nodir yng nghyfrifiadau 1910 a 1930 yn cyfateb i enedigaeth ym 1888. Cofnodir ei oed yn 51 yng nghyfrifiad 1940, gyda gwybodaeth gan ei wraig Martha. Fodd bynnag, pan gofrestrodd Ledbetter â'r rhestr filwrol yn Ebrill 1942 fe ysgrifennodd taw 23 Ionawr 1889 oedd ei ddyddiad geni a Freeport, Louisiana, oedd man ei eni. Y dyddiad hwnnw a geir ar ei garreg fedd.
 
Ledbetter oedd yr ieuengaf o ddau o blant a anwyd i Wesley Ledbetter a Sallie Brown. Mae'n debyg taw "HYEW-dee" neu "HUGH-dee" oedd ynganiad ei enw bedydd.<ref name="Cite book">{{Cite book}}</ref> Fe'i glywir yn dweud "HYEW-dee" ar y trac "Boll Weevil," ar yr albwm ''Lead Belly Sings for Children ''(Smithsonian Folkways)''.''<ref>{{cite web|url=https://play.spotify.com/track/5yYn4DcG0vF9SAoj9rgkHu?play=true&utm_source=open.spotify.com&utm_medium=open|title=Lead Belly Sings for Children|publisher=[[Spotify]]}}</ref> Bu ei rieni yn cyd-fyw am nifer o flynyddoedd cyn iddynt briodi ar 26 Chwefror 1888. Symudodd y teulu i Swydd Bowie, Texas, pan oedd Huddie yn bum mlwydd oed.
 
Erbyn 1903, roedd Huddie eisoes yn "''musicianer''",<ref>{{ name="Cite book}}<"/ref> canwr a gitarydd o fri. Perfformiodd ar gyfer cynulleidfaoedd yn St. Paul's Bottoms, yr [[ardal golau coch]] yn [[Shreveport, Louisiana|Shreveport]] gerllaw. Dechreuodd datblygu ei arddull ei hun ar ôl iddo glywed gwahanol ddylanwadau cerddorol ar Fannin Street, rhesiad o salwnau, puteindai, a neuaddau dawns yn y Bottoms, a elwir heddiw yn Ledbetter Heights.
 
Yn ôl cyfrifiad 1910, bu "Hudy" Ledbetter a'i wraig gyntaf, Aletha "Lethe" Henderson, yn byw drws nesaf i'w rieni yn Swydd Harrison, Texas. Cofnodir taw 19 oedd oed Aletha, a buont yn briod am un flynedd, ond yn ôl ffynonellau eraill roedd Aletha y 15 oed pan briodasant ym 1898. Yn Texas y derbynodd Ledbetter ei offeryn cerdd cyntaf, pan roddwyd acordion iddo gan ei ewythr Terrell. Yn ei ugeiniau cynnar roedd Ledbetter yn dad i ddau blentyn o leiaf. Gadawodd ei gartref i geisio ennill arian yn gerddor a labrwr.
 
 Yn sgil suddo'r ''[[RMS Titanic|Titanic]]'' yn Ebrill 1912, cyfansoddodd ei gân gyntaf, "The Titanic",<ref>{{YouTube|Qe5tcr0yHN4|"The Titanic" by Leadbelly}}</ref> a honno ar y gitâr ddeuddeg-llinyn, a ddaeth yn ddiweddarach ei brif offeryn. Canodd y gân tra'n berfformio gyda Blind Lemon Jefferson (1897-1929) yn [[Dallas]] a'i chyrion. Sonir y gân am y paffiwr du Jack Johnson yn cael ei atal rhag deithio ar y ''Titanic ''oherwydd lliw ei groen, yn y llinellau: "''Jack Johnson tried to get on board. The Captain, he says, 'I ain't haulin' no coal!' Fare thee, ''Titanic''! Fare thee well!''" Roedd yn rhaid i Ledbetter hepgor y geiriau hyn tra'n canu o flaen cynulleidfaoedd gwyn. Mewn gwirionedd mae'n bosib i Jack Johnson gael ei wrthod o fordaith am resymau hiliol, ond nid y ''Titanic ''oedd y llong honno.<ref>{{ name="Cite book}}<"/ref>
 
=== Ei gyfnod yn y carchar ===
Ym 1915, cafwyd Ledbetter yn euog o gario gwn a'i ddedfrydu i weithio â'r criw cadwyn yn Swydd Harrison. Llwyddodd i ddianc a chael gwaith yn Swydd Bowie dan y ffugenw Walter Boyd. Ym mis Ionawr 1918 cafodd ei garcharu yn yr Imperial Ffarm (a elwir bellach yn Central Unit)<ref name="Perkinson184">Perkinson, Robert (2010). </ref> yn Sugar Land, Texas, am iddo ladd un o'i berthnasau, Will Stafford, mewn ffrae dros ferch. Mae'n bosib taw yno fe'i glywodd am y tro cyntaf y gân draddodiadol "Midnight Special".<ref>Lomax, Alan, ed. </ref> Derbyniodd bardwn ym 1925 ar ôl iddo gyfansoddi cân yn ymofyn i'r Llywodraethwr Pat Morris Neff i'w ryddhau, gan iddo dreulio saith mlynedd yn y carchar, y cyfnod lleiaf posib o'i ddedfryd 7-35 mlynedd. Llwyddodd i apelio at ffydd gref Neff, ynghyd â'i ymddygiad da yn y carchar gan gynnwys adlonni'r gwarchodwyr a'i gyd-garcharorion. Roedd yn dystiolaeth o'i ddawn perswâd, gan i Neff ymgyrchu ar addewid i beidio â phardynu carcharorion, er hwnnw oedd yr unig gyfle iddynt gael eu rhyddhau'n gynnar gan nad oedd parôl yn y mwyafrif o garchardai'r De. Yn ôl Charles K. Wolfe a Kip Lornell, yn eu llyfr'' The Life and Legend of Leadbelly'' (1999), gwahoddai gwesteion i'r carchar am bicnic Sul yn aml gan Neff i glywed Ledbetter yn canu.
 
[[Delwedd:Angola Prison -- Leadbelly in the foreground.jpg|bawd|Ffotograff a dynnwyd gan Alan Lomax o garcharorion Angola, a Lead Belly yn y tu blaen.]]
Llinell 65:
 
==== Ei lysenw, "Lead Belly" ====
Mae yna nifer o wahanol straeon am sut cafodd Ledbetter y llysenw "Lead Belly", ond mae'n debyg iddo ei ennill tra yn y carchar. Honna rhai i'w gyd-garcharorion ei alw'n "Lead Belly" gan chwarae ar ei gyfenw i ddisgrifio'r dyn caled a chydnerth. Dywed iddo gael ei drywanu yn ei wddf gan garcharor arall yn Angola, a cerddodd Ledbetter bant o'r ysgarmes gyda chraith bu bron iddo ladd yr ymosodwr gyda chyllel ei hun yn yr ysgarmes. Gadawodd craith ar wddf Ledbetter, a fu'n hwyrach yn gorchuddio â bandana. Chwedl arall, fe'i urddwyd yn "Lead Belly" am iddo gael ei saethu yn y stumog gan haels breision (''buckshot'').<ref name="mudcat">The Mudcat Cafe. </ref> Honna damcaniaeth arall bod yr enw yn cyfeirio at ei allu i yfed gwirod golau lleuad (''moonshine''). Credai'r canwr Big Bill Broonzy bod y llysenw yn disgrifio arfer Ledbetter o orwedd yn y cysgod tra'r oedd y criw cadwyn i fod i weithio, "gyda [[Plwm|phlwm]] yn bwysau wrth ei stumog".<ref>{{Cite book|last=Terkel|first=Studs|authorlink=Studs Terkel|year=2005|title=And They All Sang|publisher=New Press}}</ref> Gall yr enw hyd yn oed fod yn llurguniad syml o'i gyfenw mewn acen y De. Beth bynnag oedd y tarddiad, fe fabwysiadodd Lead Belly yn ffugenw tra'n perfformio.
[[Delwedd:Huddie_Ledbetter_(Leadbelly)_and_Martha_Promise_Ledbetter,_Wilton,_Conn..jpg|chwith|bawd|Huddie Ledbetter a Martha Promise Ledbetter yn Wilton, Connecticut, Chwefror 1935.]]
 
Llinell 83:
Dychwelodd Lead Belly i Ddinas Efrog Newydd ar ben ei hun yn Ionawr 1936 i geisio adfer ei yrfa. Perfformiodd dwywaith y diwrnod yn yr Apollo Theater yn [[Harlem]] yn ystod adeg y Pasg gan wisgo dillad rhesog y carcharor, i ail-greu'r ffilm newyddion ohonno sy'n adrodd hanes ei ddarganfyddiad gan Lomax.
 
<span>Cyhoeddodd cylchgrawn ''Life ''erthygl dair-tudalen dan y teitl</span> "Lead Belly: Bad Nigger Makes Good Minstrel" yn rhifyn 19 Ebrill 1937. Roedd yn cynnwys delwedd liw ohonno yn eistedd ar sachau o rawn ac yn canu'i gitâr,<ref>{{ name="Cite book}}<"/ref> delwedd o Martha Promise (ei reolwr, yn ôl yr erthygl), ffotograffau o'i ddwylo yn plycio a strymian (gyda'r pennawd "''these hands once killed a man''"), a ffotograffau o'r Llywodraethwr Neff a Phenydfa Daleithiol Texas. Honna'r erhygl taw llais Lead Belly oedd y rheswm dros ei ddau bardwn, a chlo'r testun gyda'r geiriau "''he... may well be on the brink of a new and prosperous period''".
 
Methodd Lead Belly i ennyn brwdfrydedd cynulleidfaoedd Harlem. Yn lle hynny, cafodd llwyddiant mewn cyngherddau a budd-berfformiadau ar gyfer selogion cerddoriaeth werin a chefnogwyr yr adain chwith. Datblygodd arddull ei hun o ganu ac egluro'i stôr gerddorol yng nghyd-destun diwylliant y Deheuwyr croenddu, wedi iddo ddysgu'r hanes hwn mewn darlithoedd Lomax. Roedd yn arbennig o lwyddiannus gyda'i stoc o ganeuon gêm i blant (pan oedd yn ddyn ifanc yn Louisiana fe fu'n canu'n rheolaidd i bartïon pen-blwydd plant yn y gymuned ddu). Cafodd Lead Belly ei edmygu a'i foli'n arwr gan y nofelydd Richard Wright yng ngholofnau'r ''Daily Worker'', papur y Blaid Gomiwnyddol. Magodd y ddau ddyn gyfeillgarwch, er yr oedd Lead Belly yn ôl rhai heb farnau gwleidyddol, neu yn gefnogwr i'r [[Plaid Weriniaethol (Unol Daleithiau)|Gweriniaethwr]] cymedrol Wendell Willkie gan iddo cyfansoddi cân ar gyfer ei ymgyrch arlywyddol. Ar y llaw arall, ysgrifennodd hefyd y gân "Bourgeois Blues", a chanddi geiriau radicalaidd ac adain-chwith.
Llinell 102:
Canodd Lead Belly ei gitâr gyda phlectrwm bys, a phlectrwm bawd am linell fas ac weithiau i strymio. Mewn cyfuniad â chyweiriad isel a llinynnau trymion, ceir sain debyg i biano mewn nifer o'i recordiau. Mae'n debyg taw cyweirio ar i lawr y drefn safonol a wnai Lead Belly, gan diwnio'r llinynnau o'u cymharu a'i gilydd, ac felly newidiodd y nodau wrth i'r llinynnau dreulio. Cafodd arddull canu'r gitâr ddeuddeg-llinyn ei phoblogeiddio gan [[Pete Seeger]], a gynhyrchodd LP a llyfr i addysgu dechneg Lead Belly.
 
Mewn rhai o'i recordiau, mae Lead Belly yn lleisio "Hahh!" rhwng y penillion, er enghraifft yn y caneuon "Looky Looky Yonder", "Take This Hammer", "Linin' Track", a "Julie Ann Johnson". Eglurodd y rhoch hon yn y gân "Take This Hammer": "Pob amser dyweda'r dynion, 'Haah', fe gwympa'r morthwyl. Mae'r morthwyl yn canu, a 'dan ni'n codi'r morthwyl ac yn canu."<ref>YouTube. </ref> Clywir y sŵn "haah" mewn llafarganau a chaneuon gwaith gan ''gandy dancers'', sef gweithwyr rheilffyrdd y De.
 
== Ei ddylanwad ==
Llinell 148:
 
== Ffynonellau ==
* Gwyn, Gary; Stuart, David; Aviva, Elyn (2001). ''Music in Our World''. t.&#x20; 196. ISBN 0-07-027212-3.
* Lornell, Kip; Wolfe, Charles (1999). ''The Life and Legend of Leadbelly''. Da Capo Press.
 
Llinell 155:
* [http://www.leadbelly.org/ The Lead Belly Foundation]
* [http://www.leadbelly.com/ The Official Lead Belly Website]
* [[iarchive:Leadbelly-Where_Did_You_SleepWhere Did You Sleep|"Where Did You Sleep Last Night" MP3 file on The Internet Archive]]
* [http://www.tshaonline.org/handbook/online/articles/fle10 "Ledbetter, Huddie (Leadbelly)" in the Handbook of Texas Online]
* (Saesneg)<span id="cxmwAgY" tabindex="0"> </span>[[imdbtitle:0074781|''Leadbelly (1976)'']] <span id="cxmwAgY" tabindex="0"> ar wefan </span>[[Internet Movie Database]]