Allen Ginsberg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
teipo: Willaim > William |
B clean up |
||
Llinell 14:
Bardd [[Unol Daleithiau|Americanaidd]] oedd '''Irwin Allen Ginsberg''' (yngenir/ˈɡɪnzbərɡ/) ([[3 Mehefin]] [[1926]] – [[5 Ebrill]] [[1997]]). Mae'n fwyaf adnabyddus am ei gerdd '[[Howl]]' (1956), a ddathlai ei ffrindiau a oedd yn aelodau o [[Cenhedlaeth y Bitniciaid|Genhedlaeth y Bitniciaid]] ac yn beirniadu'r hyn yr ystyriai fel grymoedd dinistriol materoliaeth a chydymffurfiaeth yn yr Unol Daleithiau.
Fel nifer o'r ysgrifenwyr 'Beat' eraill, parhaodd ei ddylanwad trwy gyfnod gwrth-ddiwylliant y 60au a 70au gan ddod yn arwr i lawer o ysgrifenwyr, beirdd a cherddorion heddiw.
==Bywyd Cynnar==
Ganwyd Allen Ginsberg i deulu [[Iddewiaeth|Iddewig]] yn Newark, [[New Jersey]], ac wedyn bu'n fyw fel plentyn yn nhref Paterson gerllaw. Yn ei arddegau ysgrifennodd llythyron i'r ''New York Times'' am faterion gwleidyddol a hawliau gweithwyr. Tra yn yr ysgol uwchradd dechreuodd darllen llyfrau [[Walt Whitman]].<ref>Pacernick, Gary. "[http://www.thefreelibrary.com/Allan+Ginsberg%3A+an+interview+by+Gary+Pacernick.-a019918392 Allen Ginsberg: An interview by Gary Pacernick]" (February 10, 1996), [[The American Poetry Review]], Jul/Aug 1997. "Yeah, I am a Jewish poet. I'm Jewish."</ref>
Yn ôl y ''The Poetry Foundation'', treuliodd Ginseberg rhai misoedd mewn ysbyty meddwl wedi iddo bledio'n wallgof mewn achos llys ar gyhuddiad o gael eiddo wedi'i dwyn.<ref>Allen Ginsberg." Allen Ginsberg Biography. Poetry Foundation, 2014. Web. November 6, 2014.</ref>
Llinell 29:
Symudodd Ginsberg i [[San Francisco]] ac ym 1954 cyfarfu â Peter Orlovsky (1933–2010), a fu'n bartner iddo hyd ddiwedd ei fywyd.
[[Delwedd:Howlandotherpoems.jpeg|
Ym 1956 cyhoeddwyd ei waith enwocaf y gerdd ''Howl''. Cafodd y llyfrau eu cipio gan yr heddlu ym 1957 a bu achos llys i wahardd y gwaith am iddo gynnwys sôn am gariad [[hoyw]] ar adeg pab fu'n anghyfreithlon. Bu'r cyhoeddusrwydd i [['Howl']] yn gymorth mawr i ennill diddordeb i'r gwaith a chynyddu gwerthiant..<ref name=glbtq.com />
Llinell 37:
:''yn llusgo eu hunain trwy strydoedd duon y wawr yn chwilio am ffics blin''
::''hipsters pen-angylaidd'' ''ar dân am y cysylltiad nefol hynafol i’r dynamo serennog ym mheirianwaith y nos...''
::::...Cyfieithiad llinellau agoriadol ''Howl''
[[Delwedd:Carl Solomon, Patti Smith, Allen Ginsberg and William S. Burroughs.jpg|bawd|Carl Solomon, Patti Smith, Allen Ginsberg a William S. Burroughs|350x350px]]
Llinell 48 ⟶ 47:
Daeth Ginsburg yn [[Bwdhaeth|Fwdhydd]] ac astudiodd crefyddau dwyreiniol yn frwd. Er yr holl sylw a llwyddiant bu'n byw mewn fflatiau digon syml yn East Village, Efrog Newydd ac yn prynu ei ddillad o siopau ail-law.<ref>Ginsberg, Allen (April 3, 2015). "The Vomit of a Mad Tyger". Lion's Roar. Retrieved April 3, 2015.</ref>
Bu'n rhan o ddegawdau o brotestiadau gwleidyddol di-drais yn erbyn rhyfel [[Fietnam]] a nifer fawr o achosion eraill. Mae ei gerdd ''September on Jessore Road'', yn tynnu sylw i ddioddefaint pobl ffoaduriad [[Bangladesh
Er i'w waith cael ei wahardd a bu'n ran o'r is-ddiwylliant a heriodd syniadau poblogaidd y cyfnod erbyn diwedd ei oes bu Allen Ginsberg un o lenorion enwocaf yr iaith Saesneg. Roedd newyddion ei farwolaeth ym 1997 yn newyddion ymhlith prif penawdau yr newyddion a thalwyd teyrngedau llu iddo.
Llinell 79 ⟶ 78:
* ''The Book of Martyrdom and Artifice: First Journals and Poems 1937-1952''
* ''The Selected Letters of Allen Ginsberg and Gary Snyder''
* ''I Greet You At The Beginning of a Great Career: The Selected Correspondence of Lawrence Ferlinghetti and Allen Ginsberg'', 1955-1997
{{Rheoli awdurdod}}
|