Brwydr Garn Goch: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
crynhoi'r prif bwyntiau yn y rhagarweiniad
B clean up
Llinell 2:
 
== Cefndir ==
Gwladychwyd rhannau o [[Cymru|Gymru]], gan gynnwys Penrhyn [[Gŵyr]], gan werinwyr [[Normaniaid|Normanaidd]] yn ystod [[11g]]<ref name=":0">Walker (1990) [https://books.google.co.uk/books?id=lrKKiREQ_kYC&lpg=PP1&pg=PA36#v=onepage&q&f=true Walker (1990)]</ref>. Erbyn 1106 'roedd brenin [[Lloegr]], [[Harri I, brenin Lloegr|Harri I]], yn ddigon eofn yng [[Cymru|Nghymru]] i roddi [[Gŵyr]] yn anrheg i Iarll Warwick, a hynny heb oresgyn y tir<ref name=":0" />.  Er brwydro ffyrnig erbyn ugeiniau cynta'r [[12g]], daeth [[Gruffudd ap Rhys|Gruffydd ap Rhys]] i gytundeb â [[Harri I, brenin Lloegr|Harri I]] a bu heddwch<ref name=":0" />.
 
Bu farw Harri I ar yr ail o [[Rhagfyr|Ragfyr]] 1135<ref name=":2" />.
 
== Brwydr Garn Goch ==
 
=== Y Frwydr ===
Ar ddydd [[Calan]] 1136, gyda [[Steffan, brenin Lloegr|Steffan]] bellach ar orsedd [[Lloegr]], daeth Hywel ap Maredudd, pennaeth â chryn ddylanwad ganddo ym [[Teyrnas Brycheiniog|Mrycheiniog]], gyda nifer fawr o [[Cymry|Gymry]] tua [[Penrhyn Gŵyr|Phenrhyn Gŵyr]], i ymosod ar y [[Normaniaid]]<ref name=":1">Evans (1971)</ref>. Dynion [[Teyrnas Brycheiniog|Brycheiniog]], [[Morgannwg]] a gogledd [[Gŵyr]] oedd cyfansoddiad y fyddin<ref name=":1" />. Roedd y [[Normaniaid]] wedi hen arfer ymdrin â grwpiau bychain o [[Cymry|Gymry]] a'u gorchfygu, ond y tro hwn bu cam-amcangyfrif ac ni ragwelwyd maint byddin y [[Cymry]]<ref name=":3">Davies (1990)</ref>.
 
Aeth y ddwy fyddin ben-ben a'i gilydd am hanner dydd ar y [[dydd Calan]] hwnnw ar dir gerllaw ysbyty Garn Goch heddiw<ref name=":1" />.  Bu galanas a lladdwyd cannoedd ar y ddwy ochr: 516 o'r [[Normaniaid]] yn ôl y cofnod<ref name=":2">McKurk (1998)</ref>. Yn y cofnod 'Chronicon ex Chronicis' dywed John of Worcester (1140)  <blockquote>"''Immediately after the death of King Henry, on 2nd December, a fierce battle took place on 1st January in Gower between the Normans and the Welsh in which five hundred and sixteen of both armies died. Their bodies were horribly scattered among the fields and eaten up by wolves.''"<ref name=":2" /></blockquote>[[Delwedd:Cofeb Brwydr Garn Goch.jpg|chwith|bawd|Cofeb Brwydr Garn Goch]]Dywedir nad oedd yr olygfa a ddilynai'r frwydr yn un ddymunol, gyda chyrff y lladdedigion wedi cael eu llusgo o gwmpas y lle a'u hanner bwyta gan [[Blaidd|fleiddiaid]] fyddai'n teyrnasu yng [[Gorseinon|nghors Einon]]<ref>Fychan (2016)</ref>.  
 
Aeth byddin y [[Cymry]] yn ei blaen i losgi a rheibio de [[Gŵyr]]<ref>Coflein [http://www.coflein.gov.uk/en/site/404856/details/battle-of-gower-battle-of-loughor-carn-goch-common-penllergaer Coflein]</ref>.
 
=== Canlyniadau'r Frwydr ===
Dyma oedd dechrau rhyfel gwaedlyd y [[Cymry]] a'r [[Saeson]] rhwng 1136 ac 1137<ref name=":3" />, y rhyfel a welodd [[Gwenllian ferch Gruffudd ap Cynan|Gwenllïan]] yn farw yng [[Cydweli|Nghydweli]] a'i [[gŵr]] – [[Gruffudd ap Rhys|Gruffydd ap Rhys]], o gyd-ddigwyddiad, yn marw ym [[Penlle'r-gaer|Mhenllergaer]] rai misoedd yn ddiweddarach<ref name=":3" />.
 
=== Tystiolaeth Ddaearyddol ===
O fewn ychydig filltiroedd i safle'r frwydr ceir yr enwau Garn Goch, [[Cadle]] a Blaen-y-Maes.
 
Wrth sefyll ar faes y frwydr fe welir twmpyn bychan ar dir cyfagos gydag ambell i goeden ar ei ben – yma medd rhai y claddwyd cyrff y meirwon; yma medd eraill roedd y 'gaer' ([[Penlle'r-gaer|Penllergaer]]) lle gwyliai Hywel y frwydr yn datblygu'n waedlyd<ref name=":4">Gwefan Coffáu Garn Goch [http://www.gurfal.com/Cilmeri/Brwydr%20Gwyr.htm Gwefan Coffáu Garn Goch]</ref>.
 
=== Cofeb Garn Goch ===
Llinell 31:
=== Coffáu Cyfoes ===
[[Delwedd:Coffad Brwydr Garn Goch Ionawr y Cyntaf 2013.jpg|Coffad Brwydr Garn Goch Ionawr y Cyntaf 2013|border|chwith|frameless]]
Cedwir lleoliad y maen yn lân drwy dorri'r gwair a phlannu cenin pedr.
 
Am hanner dydd yn flynyddol ar ddydd Calan cynhelir coffâd cyhoeddus ger y maen coffa yng Ngarn Goch<ref name=":4" />.