Brwydr Alesia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: canrifoedd a Delweddau using AWB
B →‎top: clean up
Llinell 1:
[[Delwedd:Vercingetorix.jpg|bawd|200px|Cofgolofn Vercingetorix yn Alesia (Alise-Sainte-Rein)]]
 
Ymladdwyd '''Brwydr Alesia''' yn mis Medi [[52 CC]] o gwmpas ''[[oppidum]]'' [[Alesia]] yng [[Gâl|Ngâl]] rhwng byddin y cyngheiriaid Galaidd dan [[Vercingetorix]] o lwyth yr [[Arverni]] a byddin [[Yr Ymerodraeth Rufeinig|Rufeinig]] dan [[Iŵl Cesar]], yn cael ei gynorthwyo gan [[Marcus Antonius]] a [[Titus Labienus]].
 
Roedd Vercingetorix wedi ei benodi yn arweinydd y gwrthryfel Galaidd yn erbyn Rhufain. Enillodd fuddugoliaeth dros y Rhufeiniaid ym [[Brwydr Gergovia|mrwydr Gergovia]], ond pan ymosododd ar y Rhufeiniaid dan gredu eu bod yn encilio, dioddefodd y Galiaid golledion sylweddol.
 
Enciliodd Vercingetorix i [[Alesia]], a gosododd Cesar warchae arno. Adeiladodd y Rhufeiniaid fur o amgylch y ddinas, gyda mur allanol i atal unrhyw ymgais gan y Galiaid tu allan i Alesia i godi'r gwarchae. Ceisiodd byddin fawr o nifer o lwythau godi'r gwarchae, ond gorchfygwyd hwy gan Cesar, a bu raid i Vercingetorix ildio. Cadwyd ef yn garcharor yn [[Rhufain]] am bum mlynedd cyn ei ddienyddio.
 
Brwydr Alesia oedd y frwydr fawr olaf rhwng y Galiaid a'r Rhufeiniaid, a chyda'r fuddugoliaeth yma cwblhaodd Cesar goncwest Gâl.
 
 
 
[[Categori:Brwydrau Gweriniaeth Rhufain|Alesia]]