Ail Ryfel Pwnig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: canrifoedd a Delweddau using AWB
B →‎top: clean up
Llinell 5:
Yn y blynyddoedd yn dilyn y [[Rhyfel Pwnig Cyntaf]], enillodd Carthago drefedigaethau newydd yn [[Sbaen]] dan arweiniad [[Hamilcar Barca]], a daeth yn bwerus unwaith eto. Dechreuodd yr Ail Ryfel Pwnig yn Sbaen yn [[202 CC]]. Penderfynodd y cadfridog Carthaginiaidd [[Hannibal]], mab Hamilcar Barca, ymosod ar yr [[Eidal]], ac arweiniodd fyddin yn cynnwys nifer sylweddol o [[eliffant]]od dros yr [[Alpau]].
 
Yn ystod y blynyddoedd nesaf enillodd nifer o fuddugoliaethau syfrdanol dros y Rhufeiniaid, yn arbennig ym mrwydrau [[Brwydr Trebia|Trebia]], [[Brwydr Llyn Trasimene|Trasimene]] a [[Brwydr Cannae|Cannae]]. Mae tactegau Hannibal ym mrwydr Cannae yn parhau i gael eu hastudio heddiw. Lladdwyd rhwng 50,000 a 70,000 o Rufeinwyr yn y frwydr yma, sy’n yn ei gwneud yn un o’r brwydrau un diwrnod mwyaf gwaedlyd a gofnodir.
 
Problem Hannibal oedd nad oedd ganddo’r offer angenrheidiol i gipio dinasoedd caerog. Gobeithiai y byddai’r dinasoedd oedd yn cefnogi Rhufain yn troi i gefnogi Carthago yn dilyn ei lwyddiannau milwrol. Gwireddwyd hyn i raddau; er enghraifft trôdd dinas [[Capua]] at y Carthaginiaid. Yn raddol dysgodd y Rhufeiniaid oddi wrth Hannibal ei hun, a gwnaethant eu gorau i osgoi brwydr yn erbyn prif fyddin Hannibal. Yn [[207 CC]] gorchfygwyd a lladdwyd ei frawd [[Hasdrubal Barca]] pan geisiodd arwain byddin arall i’r Eidal i atgyfnerthu Hannibal..
 
Yn [[203 CC]], gorfododd ymosodiad Rhufeinig ar Ogledd Affrica dan arweiniad [[Scipio Africanus]] ef i adael yr Eidal i amddiffyn Carthago. Gorchfygwyd ef gan y Rhufeiniaid ym [[Brwydr Zama|Mrwydr Zama]]. Yn [[202 CC]] bu raid i Carthago dderbyn telerau Rhufain ac ildio, gan golli ei threfedigaethau a gorfod talu swm fawr o arian i Rufain dros gyfnod o flynyddoedd.
 
 
 
[[Categori:Rhyfeloedd|Pwnig, Ail Ryfel]]