Antiochia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B canrifoedd a Delweddau, replaced: 4edd ganrif4g, 4edd ganrif CC4 CC using AWB
B →‎Hanes: clean up
Llinell 4:
 
==Hanes==
Sefydlwyd Antiochia tua diwedd y [[4 CC]] gan [[Seleucus I Nicator]], un o gadfridogion [[Alecsander Fawr]]. Dywedir i gynllun gwreiddiol strydoedd y ddinas gael ei osod gan y pensaer [[Xenarius]] i efelychu dinas [[Alexandria]]. Tyfodd i fod yn ddinas fawr a phwysig, yn brifddinas yr [[Ymerodraeth Seleucaidd]], yn cystadlu ag Alexandria fel dinas bwysicaf y dwyrain, ac yn ddinas bwysig iawn yn hanes datblygiad [[Cristionogaeth]].
 
Yn ystod oes aur y ddinas tua diwedd y cyfnod Hellenistaidd a dechrau'r cyfnod Rhufeinig, roedd ei phoblogaeth wedi cyrraedd tua 500,000; y drydedd dinas yn y byd ar ôl [[Rhufain]] ac Alexandria. Erbyn y [[4g]], yn ôl [[Chrysostom]] roedd y boblogaeth wedi lleihau i tua 200,00. Nid yw'r ffigyrau hyn yn cynnwys caethweision.
 
Yn ddiweddarach bu ymgiprys am y ddinas rhwng yr [[Arabiaid]] a'r [[Ymerodraeth Fysantaidd]]. Bu gwarchae hir ar y ddinas yn ystod [[y Groesgad Gyntaf]], a daeth [[Bohemond I, Tywysog Antioch|Bohemund]], tywysog Taranto, yn arglwydd y ddinas. Cipiwyd y ddinas yn ôl yn [[1268]] gan y Swltan [[Mamluk]] [[Baibars]] wedi gwarchae hir arall. Lladdodd Baibars lawer o'r boblogaeth Gristionogol, a rhwng hyn a'r ffaith fod y porthladd erbyn hyn allan o gyrraedd llongau mawr, dirywiodd y ddinas.
 
== Enwogion ==