Athen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B canrifoedd a Delweddau, replaced: 19eg ganrif19g, 4edd ganrif4g using AWB
B clean up
Llinell 27:
 
== Hanes ==
Ceir tystiolaeth [[archaeoleg]]ol fod pobl wedi byw yn Athen ers tua 3,000 CC. Ond ni ddaeth Athen i amlygrwydd tan y chweched ganrif CC dan [[Pisistratus]] a'i feibion. Tua [[506 CC]] sefydlodd [[Cleisthenes]] [[democratiaeth|ddemocratiaeth]] i wŷr rhydd y ddinas. Erbyn y ganrif nesaf Athen oedd prif [[Dinas-wladwriaeth|ddinas-wladwriaeth]] [[Groeg yr Henfyd]]. Llwyddodd i wrthsefyll grym yr [[Ymerodraeth Bersiaidd]] diolch i nerth ei [[llynges]]. O'r cyfnod hwnnw ([[Rhyfeloedd Groeg a Phersia]]) mae'r [[Muriau Hir Athen|Muriau Hir]], sy'n cysylltu'r ddinas â Phriraeus, yn dyddio, ynghyd â'r Parthenon. Dan lywodraeth [[Pericles]] cyrhaeddodd Athen brig ei diwylliant a'i dylanwad yn yr Henfyd, gydag [[athroniaeth]] [[Socrates]] a dramâu [[Ewripides]], [[Aeschylus]] a [[Soffocles]]. Daeth rhyfel â [[Sparta]], oedd yn cystadlu ag Athen am arweinyddiaeth yn y byd Groegaidd gan wrthwynebu ei pholisïau imperialaidd, yn y [[Rhyfel Peloponesaidd]] (431-404 CC), a cholli fu hanes Athen. Adferodd ei goruchafiaeth yn araf ac yn y cyfnod nesaf yn ei hanes gwelwyd ffigurau fel [[Platon]], [[Aristotlys]] ac [[Aristophanes]] yn adfer bri Athen fel prifddinas dysg a diwylliant yr [[Henfyd]].
 
Cymharol fyr fu'r cyfnod llewyrchus olaf, fodd bynnag. Yn [[338 CC]] gorchfygwyd Athen gan [[Philip o Facedon]] ac erbyn yr ail ganrif CC roedd hi'n rhan o'r Ymerodraeth Rufeinig. Ond er bod grym gwleidyddol Athen wedi diflannu parheai i fod yn ddylanwad mawr ar fywyd diwyllianol y byd Rhufeinig a [[Helenistaidd]] am ganrifoedd. Hyd yn oed ar ôl iddi gael ei goresgyn dros dro gan lwythi [[Germaniaid|Germanaidd]] yn y [[4g]] roedd ei hysgolion [[rhethreg]] ac athroniaeth yn dal i flodeuo nes iddynt gael eu cau gan [[Justinian]] yn [[529]]. Dirywiodd y ddinas yn gyflym yn y cyfnod [[Ymerodraeth Fysantaidd|Bysantaidd]]. Cwympodd i'r [[Croesgadau|Croesgadwyr]] yn [[1204]] ac roedd dan reolaeth [[Twrci]] o [[1456]] hyd [[1833]] pan ddaeth yn brifddinas y deyrnas Roeg annibynnol newydd. Cafodd ei meddiannu gan yr [[Almaen]]wyr yn yr [[Ail Ryfel Byd]]. Erbyn heddiw mae'n ddinas fawr a llewyrchus prifddinas y wladwriaeth Roegaidd.
Llinell 75:
 
{{Prifddinasoedd Ewrop}}
 
 
[[Categori:Athen| ]]