Brwydr Marathon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: canrifoedd a Delweddau using AWB
B →‎top: clean up
Llinell 3:
Ymladdwyd '''Brwydr Marathon''' ym mis Medi 490 CC. rhwng yr [[Ymerodraeth Bersaidd]] a'r [[Athen]]iaid, ar wastadedd [[Marathon, Groeg|Marathon]], ychydig i'r gogledd-ddwyrain o Athen. Daw'r wybodaeth am y frwydr yn bennaf o waith yr hanesydd Groegaidd [[Herodotus]].
 
Yr oedd dinas-wladwriaethau Groegaidd [[Ionia]] wedi gwrthryfela yn erbyn yr Ymerodraeth Bersaidd, ac wedi derbyn cymorth gan Athen. Penderfynodd [[Darius I, brenin Persia]] yrru byddin i gosbi'r Atheniaid ac i ymgorffori Groeg yn yr ymerodraeth. Gyrrodd fyddin dan [[Datis]] ac [[Artaphernes]] gyda llynges, i gipio ynysoedd y [[Cyclades]] ac yna ymosod ar [[Eretria]] ac Athen. Gyda hwy roedd [[Hippias]], cyn-unben Athen, oedd wedi ei alltudio ac yn gobeithio cael ei enwi'n rheolwr y ddinas wedi iddi gael ei gorchfygu gan y Persiaid. Cipiwyd Eretria, ac yna defnyddiwyd y llynges i lanio'r fyddin Bersaidd, oedd yn ôl barn haneswyr diweddar rhwng 45,000 a 60,000 o filwyr, ym mae Marathon, heb fod ymhell o Athen.
 
Gwrthwynebwyd hwy gan fyddin o tua 10,000 o Atheniaid a 1,000 o wŷr o ddinas [[Plataea]]. Yn ôl Herodotus yr oedd y rhedwr [[Pheidippides]] wedi ei yrri i [[Sparta]] i ofyn am gymorth. Dychwelodd gyda'r neges na allai'r Spartiaid ddod ar unwaith oherwydd gŵyl grefyddol, ond y byddent yn gyrru byddin cyn gynted ag y byddai'r ŵyl wedi gorffen. Ar y ffordd cafodd weledigaeth o'r duw [[Pan (duw)|Pan]], a ddaroganodd fuddugoliaeth i'r Groegwyr yn erbyn Persia.
 
Ymladdwyd y frwydr cyn i'r Spartiaid gyrraedd, gyda'r Groegiaid dan arweiniad [[Miltiades]] a'r polemarch [[Callimachus (polemarch)|Callimachus]]. Bu'r frwydr yn fuddugoliaeth fawr i'r Groegiaid; yn ôl Herodotus lladdwyd 6,400 o Bersiaid. Llwyddodd y gweddill i ffoi i'w llongau a hwylio ymaith. Dywed Herodotus mai dim ond 192 o Atheniaid ac 11 o wŷr Plataea a laddwyd, yn ei plith Callimachus y polemarch. Ymhlith y milwyr yn y fyddin Athenaidd roedd y dramodydd enwog [[Aeschylus]].
 
[[Delwedd:Battle of Marathon Initial Situation.png|bawd|370px|chwith|Y sefyllfa ar ddechrau brwydr Marathon; safle'r Groegiaid mewn glas, y Persiaid mewn coch.]]
Llinell 20:
:a ddinistriodd rym y Mediaid eurwisg)
 
Mae traddodiad diweddarach (nid yw Herodotus yn sôn amdano) fod Pheidippides wedi rhedeg o faes y frwydr i Athen gyda'r newyddion am y fuddugoliaeth, ac yna wedi cwympo'n farw wedi dweud ei neges. O'r stori yma y rhoddwyd yr enw [[Marathon (ras)|Marathon]] i'r ras fodern.
 
Rhoddodd y frwydr yma ddiwedd ar ymdrech gyntaf yr Ymerodraeth Bersaidd i orchfygu Gwlad Groeg. Ddeng mlynedd yn ddiweddarach daeth mab Darius, [[Xerxes I]] gyda byddin a llynges lawer mwy i wneud ail ymgais.
 
 
 
 
 
[[Categori:Groeg yr Henfyd]]