Brwydr Thermopylae: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: canrifoedd a Delweddau using AWB
B →‎top: clean up
Llinell 9:
Croesodd byddin Xerxes yr [[Hellespont]] ar bont wedi ei gwneud o gychod, a meddiannu gogledd Groeg, lle cafodd gefnogaeth nifer o’r [[dinas-wladwriaeth]]au. Mae dadlau ymhlith haneswyr ynghylch maint byddin y Persiaid; yn ôl Herodotus roedd tua dwy filiwn a hanner ohonynt, ond nid yw haneswyr diweddar yn derbyn ei ffigyrau. Cred rhai ei bod tua 250,000, tra cred eraill fod ei nifer yn llai, yn bennaf oherwydd eu bod o’r farn na fyddai digon o ddŵr ar gael i fyddin mor fawr.
 
Penderfynodd y Groegiaid geisio gwrthsefyll y Persiaid yn [[Thermopylae]], lle roedd y ffordd tua’r de yn mynd trwy fwlch cul, dim ond tua 12 medr yn y man culaf, rhwng y mynyddoedd a’r môr. Roedd byddin y Groegiaid yn cynnwys 300 [[hoplit]] o Sparta (a chyda hwy tua 600 o [[helot]]iaid, gan fod pob Spartiad yn mynd â dau was gydag ef, 500 o wŷr [[Tegea]], 500 o [[Mantinea]], 120 o [[Orcomenos]] a 1,000 arall o’r gweddill o [[Arcadia]], 400 o ddinas [[Corinth]], 200 o [[Fliunte]], 80 o [[Mycenae]], 700 o [[Thespia]]id a 400 o [[Thebai]], gyda 1,000 o’r [[Phocis|Ffociaid]] a [[Locria]]id. Er fod y Spartiaid yn un o’r grwpiau lleiaf yn y fyddin, hwy oedd yn arwain, dan ei brenin [[Leonidas]]; roeddynt yn filwyr proffesiynol tra’r oedd y gweddill yn ddinasyddion wedi eu galw i’r gad.
 
Pan gyrhaeddodd byddin Persia Thermopylae, dywedir i Xerxes anfon cennad at y Groegiaid yn gorchymyn iddynt ildio eu harfau rhag cael eu dinistrio. Ateb Leonidas oedd
:“Μολων λαβε'' – “Tyrd i’w casglu dy hun”.
 
[[Delwedd:Leonidas.jpg|bawd|chwith|300px|Cerflun o Leonidas.]]
 
Ymosododd y Persiaid, ond gan fod y bwlch mor gul ni allent ddefnyddio mwy na rhan fechan o’u byddin ar unwaith. Roedd arfau y Groegiaid yn well, a dioddefodd y Persiaid golledion mawr yn yr ymosodiadau cyntaf. Danfonodd Xerxes ddeng mil o’i filwyr gorau, yr [[Anfarwolion]], i ymosod, ond methu wnaethant hwythau, a lladdwyd cannoedd ohonynt.
 
Gyda’r Persiaid yn dechrau anobeithio, daeth Groegwr o Tesalia o’r enw Effialtes at Xerxes, a dweud ei fod yn gwybod am lwybr trwy’r mynyddoedd fyddai’n galluogi milwyr Persaidd i ddod i lawr i’r gwastadedd tu cefn i’r Groegiaid. Gyrrodd Xerxes ran o’i fyddin ar hyd y llwybr yma dan arweiniad Effialtes. Roedd y Ffociaid wedi cael y dasg o amddiffyn y llwybr yma, ond pan welsant y Persiaid, ffoesant heb geisio eu gwrthwynebu.
 
Pan glywodd Leonidas beth oedd wedi digwydd, gyrrodd y rhan fwyaf o fyddin y Groegiaid i ffwrdd. Arhosodd y 300 Spartiad a’r milwyr o [[Thebes]] a’r Thespiaid. Erbyn bore’r pedwerydd diwrnod ers dechrau’r frwydr roedd y Persiaid yn dynesu o’r tu cefn, a dywedodd Leonidas wrth ei filwyr am gymeryd brecwast da, gan y byddent yn cael eu cinio yn [[Hades (isfyd)|Hades]]. Defnyddiodd y Persiaid eu saethwyr yn y frwydr olaf yn hytrach nag ymladd law yn llaw â’r Groegiaid, a lladdwyd Leonidas gan saeth yn weddol fuan. Parhaodd y frwydr nes i bob un o’r Spartiaid gael eu lladd; dywed Herodotus i ychydig o’r Groegiaid eraill ildio i’r Persiaid.
 
Er i’r Groegiaid gael eu gorchfygu, bu’r frwydr yn ysbrydoliaeth i’r Groegiaid eraill. Gorchfygwyd llynges y Persiaid gan lynges o Roeg dan arweiniad [[Athen]] ym [[Brwydr Salamis|Mrwydr Salamis]], a bu raid i Xerxes a rhan sylweddol o’i fyddin ddychwelyd i Asia Leiaf. Arhosodd byddin yng Ngroeg dan [[Mardonius]], ond gorchfygwyd y fyddin honno gan y Groegiaid, dan [[Pausanias, brenin Sparta]], ym [[Brwydr Plataea|Mrwydr Plataea]].
 
Ar fedd y Spartiaid, rhoddwyd [[epigram]] gan y bardd [[Simonides]]:
Llinell 33:
 
Mae hanes y frwydr wedi dod yn rhan o gynhysgaeth ddiwylliannol gwledydd y gorllewin, gyda’r pwyslais ar y 300 Spartiad, gan anghofio’n aml am y gweddill o’r fyddin. Ymddangosodd y ffilm ''The 300 Spartans'' yn [[1961]] , ac ym mis Mawrth [[2007]] y ffilm [[300 (ffilm)|300]], yn seiliedig ar nofel graffig [[Frank Millar]].
 
 
 
 
[[Categori:Groeg yr Henfyd]]