Delos: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: canrifoedd a Delweddau using AWB
B →‎top: clean up
Llinell 1:
[[Image:Delos Lions.jpg|bawd|Teras y Llewod, Delos.]]
 
Mae '''Delos''' ([[Groeg]]: Δήλος, ''Dhilos'') yn ynys yng nghanol y cylch o ynysoedd a elwir y [[Cyclades]] yng [[Gwlad Groeg|Ngwlad Groeg]]. Roedd yr ynys yn bwysig ym mytholeg Groeg; dywedid mai yma yr oedd man geni y duw [[Apollo]] a'r dduwies [[Artemis]].
 
Credir fod pobl wedi bod yn byw ar Delos ers y trydydd mileniwm cyn Crist. Yn ôl yr hanesydd [[Thucydides]] roedd y boblogaeth wreiddiol yn forladron Cariaidd, a yrrwyd o'r ynys gan y brenin [[Minos]] o ynys [[Creta]]. Erbyn cyfnod [[Homeros]] roedd yr ynys yn enwog fel man geni Apollo ac Artemis. Rhwng [[900 CC]] a [[100]] OC., ystyrid Delos yn ynys sanctaidd, gyda theml i [[Dionysus]] yno hefyd.
 
Ar ôl [[Rhyfeloedd Groeg a Phersia]], daeth Delos yn fan cyfarfod [[Cynghrair Delos]], a sefydlwyd yn [[478 CC]], a chedwid trysorfa'r gynghrair yma hyd [[454 CC]] pan y'i symudwyd i [[Athen]] gan [[Pericles]]. Ers 1873 mae'r ''École Française d'Athènes'' wedi bod yn cloddio yma, a gwnaed nifer fawr o ddarganfyddiadau. Yn [[1990]] cyhoeddwyd Delos yn [[Safle Treftadaeth y Byd]].
 
{{eginyn Groeg}}