Parthenon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: canrifoedd a Delweddau, replaced: 6ed ganrif6g using AWB
B →‎top: clean up
Llinell 4:
 
Y Parthenon yw'r enwocaf o'r adeiladau sydd wedi goroesi o'r cyfnod clasurol yng Ngroeg, ac mae'n symbol o ddinas Athen. Cafodd ei adeiladu i gymeryd lle teml hŷn i Athena a ddinistriwyd gan y [[Persiaid]] yn 480 CC. Adeiladwyd y Parthenon dan arolygaeth y cerflunydd enwog
[[Phidias]], oedd hefyd yn gyfrifol am y cerfluniau o'i gwmpas. Dechreuwyd gweithio ar yr adeilad gan y penseiri [[Iktinos]] a [[Kallikrates]], yn 447 CC, ac roedd wedi ei orffen erbyn 432, er i'r gwaith ar y cerfluniau barhau hyd o leiaf 431.
 
Am gyfnod bu'n gweithredu fel trysorfa i [[Cynghrair Delos|Gynghrair Delos]], a ddatblygodd yn ymerodraeth Athen. Yn y [[6g]] daeth yn [[eglwys]] Gristionogol, ac yn y [[1460au]] fe'i trowyd yn [[Mosg|fosg]]. Ar [[28 Medi]] [[1687]], ffrwydrwyd powdwr gwn oedd yn cael ei gadw tu mewn pan daniodd byddin [[Fenis]] arno wrth ymladd yr Ottomaniaid. Yn 1806, cymerodd [[Thomas Bruce, 7fed Iarll Elgin]] lawer o'r cerfluniau ymaith, trwy gytundeb a'r Ottomaniaid, oedd yn meddiannu Groeg ar y pryd. Yn 1816, gwerthwyd hwy i'r [[Amgueddfa Brydeinig]], lle maent hyd heddiw, er gwaethaf ymdrechion llywodraeth Groeg i'w cael yn ôl.
 
 
 
 
 
[[Categori:Athen]]