Gwareiddiad Myceneaidd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →top: clean up |
|||
Llinell 3:
Y '''Gwareiddiad Myceneaidd''' yw'r enw a ddefnyddir am y [[gwareiddiad]] cyn-helenaidd yng [[Gwlad Groeg|Ngwlad Groeg]] yng nghyfnod diweddar [[Oes yr Efydd]]. Caiff ei enw o ddinas [[Mycenae]] yn y [[Peloponnesos]].
Darganfuwyd y gwareiddiad hwn gan yr archaeolegydd Almaenig [[Heinrich Schliemann]] wrth gloddio ym Mycenae (1874) a [[Tiryns]] (1886). Credai Schliemann ei fod wedi darganfod y byd a ddisgrifiwyd gan [[Homeros]] yn yr ''[[Iliad]]''. Mewn bedd ym Mycenae, cafodd hyd i fasg aur a alwodd yn "Fasg Agamemnon" ar ôl [[Agamemnon]], brenin Mycenae yng nghyfnod [[Rhyfel Caerdroea]]; gwyddys erbyn hyn nad yw'r fasg yn cynrychioli Agamemnon ond yn perthyn i ddosbarth o fasgiau o wynebau'r meirw sy'n un o nodweddion gwareiddiad Mycenae.
Parhaodd y gwareiddiad Myceneaidd o tua 1550 CC hyd tua 1100 CC. Roedd yn olynydd i'r [[Gwareiddiad Minoaidd]].
[[Delwedd:Sites mycéniens.png|bawd|chwith|300px|Prif safleoedd y Gwareiddiad Myceneaidd]]
[[Categori:Gwareiddiadau|Mycenaidd]]
|