Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Ostraciaeth"

Lleihawyd o 2 feit ,  4 o flynyddoedd yn ôl
B
→‎top: clean up
B (→‎top: canrifoedd a Delweddau, replaced: 5ed ganrif CC5 CC using AWB)
B (→‎top: clean up)
 
[[Delwedd:Ostrakon with the name of Themistokles.JPG|bawd|Ostrakon yn dwyn enw [[Themistocles]], mab Neocles.]]
 
'''Ostraciaeth''' oedd y drefn yn [[Athen]] ddemocrataidd yn y [[5 CC]] o gynnal pleidlais i alltudio un neu fwy o arweinwyr y ddinas-wladwriaeth am gyfnod o ddeng mlynedd.
 
Ar ddiwrnod arbennig, byddai pob etholwr yn Athen yn dod i'r Agora ac yn ysgrifennu enw'r person y dymunai ef ei alltudio ar ddarn toredig o grochenewaith (''ostrakon''). Byddai unrhyw berson oedd yn cael mwy na 6,000 o bleidleisiau yn cael ei alltudio. Ni fyddai'n colli ei feddiannau, ac nid oedd yr ostraciaeth yn cael ei hystyried fel cosb; yn hytrach roedd yn ddull o ddatrys dadleuon gwleidyddol. Byddai pob arweinydd gwleidyddol yn Athen yn ceisio sicrhau fod ei wrthwynebwyr yn cael eu hostraceiddio. Er enghraifft, yn y cyfnod cyn ymosodiad [[Xerxes I]], brenin [[Ymerodraeth Persia]], ar Athen yn [[480 CC]], bu dadl sut y dylid amddiffyn y ddinas, trwy ganolbwyntio ar y llynges neu ar y fyddin. Llwyddodd [[Themistocles]], oedd o blaid cryfhau'r llyngres, i sicrhau ostraceiddio [[Aristeides]], oedd o blaid cryfhau'r fyddin.
 
Yn [[442 CC]], alltudiwyd y gwleidydd [[Thucydides (gwleidydd)|Thucydides]] o Athen am ddeng mlyned wedi i'w ymgais i ddisodli [[Pericles]] fethu. Daeth yr arfer i ben tua [[415 CC]].
450,625

golygiad