Nemesis (mytholeg): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Delusion23 (sgwrs | cyfraniadau)
B →‎top: clean up
Llinell 5:
Roedd ei chwlt yn arbennig o gryf yn ardal [[Rhamnus]] yn [[Attica]], ac fe'i gelwir weithiau "y dduwies Rhamnusiaidd" o'r herwydd. Yn Rhamnus credid ei bod yn ferch i [[Okeanos]], duw'r môr. Dywedir y cerfiodd yr arlunydd enwog [[Phidias]] gerflun ohoni allan o ddarn o farmor roedd y [[Ymerodraeth Persia|Persiaid]] wedi dwyn i faes [[Marathon]] i godi allor i'w buddugoliaeth ddisgwyliedig: ond y Groegiaid a enillodd y dydd felly priodol oedd gwneud cerflun o Nemesis gyda'r garreg a'i osod yn ei theml yn Rhamnus.
 
Cafodd ei chwlt le ym mhantheon y Rhufeiniaid yn nes ymlaen. Mae cerfluniau Rhufeinig yn ei phortreadu fel morwyn fyfyrgar sy'n dal [[Olwyn Ffawd]] a/neu symbolau o reolaeth a chymesuredd (e.e. fflangell a ffon mesur). Mae ei adenydd yn cynrychioli cyflymder.
 
Cedwir ei henw o hyd yn y dywediad "mae wedi cwrdd â'i nemesis."