Paris (mytholeg): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: canrifoedd a Delweddau using AWB
B →‎top: clean up
Llinell 7:
Mae Paris yn cipio Helen, a'i dwyn i Gaerdroea, lle mae ei dad, Priam, yn frenin. Ymateb Menelaos yw gofyn cymorth ei frawd [[Agamemnon]], brenin mwyaf nerthol y Groegiaid. Gelwir arwyr y Groegiaid at ei gilydd, yn eu plith [[Achilles]] a'i gyfaill [[Patroclus]], yr hynafgwr [[Nestor]], [[Aiax (mytholeg)|Aiax]], [[Odysseus]], [[Calchas]] a [[Diomedes]], ac wedi ymgynull ar ynys [[Aulis]], maent yn hwylio am Gaerdroea.
 
Y mwyaf nerthol o arwyr y Groegiaid yw Achilles, sy'n fab i'r dduwies [[Thetis]]. Pan oedd yn faban, roedd Thetis wedi ei ymdrochi yn [[afon Styx]] fel na ellid ei niweidio gan unrhyw arf; heblaw ar ei sawdl, lle roedd hi'n gafael ynddo. Lleddir Patroclus, cyfaill Achilles, gan [[Hector]], mab hynaf Priam a phrif arwr Caerdroea. Lleddir Hector gan Achilles, yma saethir Achilles ei hun yn ei sawdl gan Paris, ac mae'n marw o ganlyniad i'r anaf.
 
Yn nes ymlaen yn y rhyfel, clwyfir Paris yn farwol gan [[Philoctetes]]. Mae Helen yn mynd i chwilio am [[Oenone]], cyn-gariad Paris sy'n byw ar [[Mynydd Ida, Twrci|Fynydd Ida]], ac yn erfyn arni i iachau Paris, ond mae Oenone yn gwrthod, ac mae Paris yn marw.