Pharos Alecsandria: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Addbot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 69 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q43244 (translate me)
B →‎top: clean up
Llinell 2:
[[Goleudy]] enwog ar gopa dwyreiniol yr [[ynys]] fechan o'r un enw o flaen harbwr dinas [[Alecsandria]] yn [[yr Aifft]] ac un o [[Saith Rhyfeddod yr Hen Fyd]] oedd '''Pharos Alecsandria'''.
 
Roedd yn dwr wedi ei wneud â blociau o [[marmor|farmor]] gwyn. Fe'i codwyd gan [[Sostratus]] o [[Cnidus]] yn [[270 CC]] ar gyfer y brenin [[Ptolemy Philadelphus]]. Gwariwyd 800 [[Talent (arian)|talent]] arian ar ei gyfer. Roedd yn codi fel [[pyramid]] ac iddo dri llawr (neu ragor), pob un yn llai na'r llall ac o siapiau gwahanol, y cyntaf yn siâp sgwâr, yr ail yn wythochrog, a'r olaf yn grwn. Fe'i addurnwyd â phileri ac orielau ysblennydd.
 
Ymddengys fod ei uchder o gwmpas 35m, ond mae rhai awduron diweddarach yn honni ei fod yn fwy o gryn dipyn, e.e. tua 1250m yn ôl [[Stephanus o Fysantium]]! Mae'r awdur [[Iddew]]ig [[Josephus]] yn dweud fod twr Phasael yng [[Caersalem|Nghaersalem]] i'w gymharu â'r Pharos o ran ei uchder, sy'n rhoi uchder o tua 135 troedfedd (90 [[cubit]]) iddo.