Brwydr Stalingrad: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
delwedd
B →‎top: clean up
Llinell 4:
Roedd yr Almaen, ar orchymyn [[Adolf Hitler]], wedi ymosod ar yr Undeb Sofietaidd yn mis Mehefin [[1941]], er gwaethaf cytundeb heddwch rhwng Hitler a [[Joseff Stalin]]. Galwyd yr ymosodiad yn [[Cyrch Barbarossa|Gyrch Barbarossa]]. Yn y misoedd cyntaf, dioddefodd y Fyddin Goch golledion dychrynllyd, ac erbyn mis Hydref roedd yr Almaenwyr yn agos at [[Moscfa|Foscfa]]. Fodd bynnag, ni lwyddasant i gipio'r ddinas.
 
Yn ystod haf [[1942]], ymosododd Chweched Byddin yr Almaen dan [[Friedrich Paulus]] yn y de. Dechreuodd yr ymgyrch ar [[28 Mehefin]]. Ar [[19 Awst]] gorchymynwyd cipio dinas Stalingrad. Ar [[12 Medi]], penodwyd [[Vasily Chukov]] i arwain yr amddiffynwyr yn y ddinas. Dros y misoedd nesaf bu brwydro caled o gwmpas ac yn adfeilion Stalingrad. Bu colledion trwm ar y ddwy ochr, a lladdwyd tua 40,000 o drigolion y ddinas.
 
Tra roedd yr ymladd yn parhau yn y ddinas, cynlluniodd y cadfridog [[Georgi Zhukov]] wrth-ymosodiad i godi'r gwarchae ar Stalingrad ac amgylchynu'r Chweched Byddin. Dechreuodd yr ymosodiad hwn ar [[19 Tachwedd]]. Ar [[23 Tachwedd]], gorchymynodd Hitler nad oedd y Chweched Byddin i encilio, ond i amddiffyn eu safleoedd hyd angau. Llwyddodd y Fyddin Goch i amgylchynu'r Almaenwyr.
 
Ym mis Chwefror, ildiodd Paulus a gweddillion ei fyddin i'r Fyddin Goch. Dyma'r tro cyntaf i'r Almaen golli brwydr ar raddfa fawr yn yr Ail Ryfel Byd, a Paulus oedd y cadlywydd Almaenig cyntaf erioed i'w gymeryd yn garcharor.
 
{{eginyn hanes Rwsia}}
 
[[Categori:1942]]
Llinell 15 ⟶ 17:
[[Categori:Brwydrau Rwsia|Stalingrad]]
[[Categori:Oblast Volgograd]]
 
{{eginyn hanes Rwsia}}