Bithynia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: clean up, replaced: |ewin bawd| → |bawd| using AWB
B →‎top: clean up
Llinell 2:
Teyrnas a thalaith Rufeinig yn [[Asia Leiaf]] oedd '''Bithynia'''. Yn y dwyrain roedd yn ffinio ar [[Paphlagonia]], yn y gorllewin ar [[Mysia]] ac yn y de ar [[Phrygia]], [[Epictetus]] a [[Galatia]]. Roedd nifer o ddinasoedd pwysig ar lannau'r Propontis ([[Môr Marmara]] heddiw), yn cynnwys [[Nicomedia]], [[Chalcedon]], [[Cius]] ac [[Apamea (Bithynia)|Apamea]]. Yn Bithynia hefyd yr oedd [[Nicaea (dinas)|Nicaea]], a roddodd ei henw i [[Credo Nicea|Gredo Nicea]]. Mae'n ardal fynyddig, gyda mynyddoedd Olympus "Mysaidd" yn cyrraedd 2,300 medr (7,600 troedfedd).
 
Yn ôl haneswyr fel [[Herodotus]], [[Xenophon]] a [[Strabo]], llwyth [[Thrace|Thraciaidd]] oedd y Bithyniaid yn wreiddiol. Roedd yr ardal yn rhan o deyrnas [[Lydia]] dan y brenin [[Croesus]], yna dan reolaeth yr [[Ymerodraeth Bersaidd]] pan orchfygwud Croesus gan y Persiaid. Mae'n ymddangos eu bod wedi dod yn deyrnas annibynnol hyd yn oed cyn i [[Alecsander Fawr]] orchfygu Persia.
 
Bu cyfres o frenhinoedd ar y deyrnas annibynnol:
Llinell 19:
Daeth y brenin olaf, [[Nicomedes IV, brenin Bithynia|Nicomedes IV]], dan fygythiad o du [[Mithridates VI, brenin Pontus]], a bu raid iddo ddibynnu ar fyddin [[Gweriniaeth Rhufain]] i'w adfer i'w orsedd. Pan fu farw yn [[74]] OC, gadawodd ei deyrnas i Rufain yn ei ewyllys.
 
Fel talaith Rufeinig, roedd ffiniau Bithynia yn amrywio, ac ar brydiau fe'i cyfunid a thalaith [[Pontus]].
 
{{Taleithiau Rhufeinig}}