Dynes ar ei heistedd Çatalhöyük: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 1 interwiki links, now provided by Wikidata on d:Q2233466
B →‎top: clean up
Llinell 1:
[[Delwedd:Ankara_Muzeum_B19-36.jpg|250px|bawd|Y cerflun yn Amgueddfa Gwareiddiadau Anatolia, Ankara]]
 
[[Cerflun]] [[Cynhanes|cynhanesyddolcynhanes]]yddol o fenyw yn eistedd ar gadair neu orsedd yw '''Dynes ar ei heistedd Çatalhöyük''' (hefyd '''Çatal Höyük''' neu '''Çatalhüyük'''). Mae'n gerflun o [[clai|glai]] wedi'i danio o [[Benyw|fenyw]] noeth sy'n eistedd ar [[Cadair|gadair]] neu [[Gorsedd|orsedd]] o ryw fath rhwng dwy fraich sy'n terfynu mewn pennau [[llew|llewod]]od. Tybir yn gyffredinol ei bod yn cynrychioli [[Mam-dduwies]] dew a ffrwythlon sydd ar ganol [[Geni|esgor ar blentyn]]. Darganfuwyd y cerflun ar safle dinas hynafol [[Çatalhöyük]] yn [[Twrci|Nhwrci]].
 
Dyma'r mwyaf adnabyddus o sawl cerflun cyffelyb o'r un safle, a gysylltir gan archaeolegwyr â cherfluniau eraill o'r cyfnod [[Neolithig]] ([[Oes Newydd y Cerrig]]) sy'n cynrychioli mam-dduwiesau tew, er enghraifft '[[Gwener Willendorf]]'. Mae'r perthynas iconograffig rhwng y cerflun Anatolaidd hwn â'r cerfluniau diweddarach o'r Fam-dduwies Anatolaidd [[Cybele]], sy'n dyddio o'r Fileniwm 1af CC, yn drawiadol.
 
Credir fod y cerflun yn dyddio o tua 6,000 CC. Fe'i darganfuwyd gan yr archaeolegydd [[James Mellaart]] tra'n cloddio yn Çatalhöyük yn 1961.<ref>Mellaart, James : Çatal Hüyük, A Neolithic Town in Anatolia, London, 1967.</ref> Erbyn hyn mae 'Dynes ar ei heistedd Çatalhöyük' yn rhan o gasgliadau [[Amgueddfa Gwareiddiadau Anatolia]] yn [[Ankara]], prifddinas Twrci.