Ymerodraeth Newydd Assyria: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: canrifoedd a Delweddau using AWB
B →‎top: clean up
 
Llinell 5:
Ychwanegwyd at yr ymerodraeth gan [[Ashurnasirpal II]] (883 CC - 859 CC), fu'n ymgyrchu cyn belled a [[Ffenicia]]. Parhaodd yr ymgyrchoedd milwrol dan ei fab, [[Shalmaneser III]] (858 CC - 823 CC), pan gipiwyd dinas [[Babilon]] ac ymladd yn erbyn cynghrair o wladwriaethau Syraidd dan arweiniad [[Hadadezer]], brenin [[Damascus]] yn 853 CC, cynghrair oedd yn cynnwys [[Ahab]], brenin [[Teyrnas Israel|Israel]]. Yn ddiweddarach gorfododd Shalmaneser [[Jehu]], brenin Israel, a dinasoedd [[Tyrus]] a [[Sidon]] i dalu teyrnged iddo.
 
Am gyfnod, rhwng 823 a 745 CC, edwinodd grym Assyria dan reolwyr oedd yn cynnwys y frenhines [[Semiramis]]. Yn 746 CC daeth [[Tiglath-pileser III]] i'r orsedd, a dechreuodd Assyria ymestyn ei thiriogaethau unwaith eto, gan ymgyrchu yn Syria a Ffenicia a chipio Babilon unwaith eto. Yn [[727 CC]], olynwyd ef gan [[Shalmaneser V]]. Bu ef farw'n annisgwyl yn [[722 CC]] wrth ymgyrchu yn [[Samaria]], a chipiwyd yr orsedd gan [[Sargon II]]. Concrodd ef Samaria, a rhoi diwedd ar Deyrnas Israel trwy gaethgludo 27,000 o'i thrigolion.
 
Pan laddwyd Sargon wrth ymladd yn erbyn y [[Cimmeriaid]] yn [[705 CC]], daeth ei fab [[Sennacherib]] yn frenin. Symudodd ef y brifddinas i [[Ninefeh]]. Cofnodir ei ymgyrch yn erbyn teyrnas [[Judah]] yn 701 CC yn [[Llyfr Esiea]]. Llofruddiwyd Sennacherib yn [[681 CC]], ac olynwyd ef gan ei fab, [[Esarhaddon]]. Ymosododd ef ar yr Aifft, yn aflwyddiannus yn 673 CC ond yn llwyddiannus ddwy flynedd yn ddiweddarach. Olynwyd ef gan ei fab [[Ashurbanipal|Aššur-bani-pal]] yn [[669 CC]], a than ei deyrnasiad ef cyrhaeddodd Assyria uchafbwynt ei grym.
 
Wedi marwolaeth Ashurbanipal yn [[627 CC]], dechreuodd yr ymerodraeth ddadfeilio. Daeth yr ymerodraeth i ben wedi i'r [[Babilon]]iaid gipio dinas [[Ninefeh]] yn [[612 CC]].