Susa: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: canrifoedd a Delweddau using AWB
B →‎top: clean up
Llinell 4:
Hen ddinas yn yr hyn sy'n awr yn [[Iran]] oedd '''Susa''' ([[Hebraeg]] '''שושן''', '''Shushan'''; [[Groeg (iaith)|Groeg]]: Σοῦσα, '''Sousa'''; [[Lladin]] '''Susa'''). Ar wahanol adegau, bu'n brifddinas yr [[Elam]]itaid, [[Ymerodraeth Persia]] ac ymerodraeth [[Parthia]]. Saif tua 250 km (150 milltir) i'r dwyrain o [[Afon Tigris]] yn nhalaith [[Khūzestān]]; heddiw saif tref [[Shush, Iran|Shush]] ar y safle.
 
Roedd Susa yn un o ddinasoedd hynaf y byd, efallai yn mynd yn ôl i tua 4200 CC. Daeth yn brifddinas Ymerodraeth Elam, ac mae'n ymddangos yng ngofnodion hynaf y [[Sumer]]iaid. Ceir nifer o gyfeiriadau at Susa yn [[y Beibl]] hefyd; yma y lleolir digwyddiadau [[Llyfr Esther]], a cheir beddrod yma y dywedir ei fod yn fedd [[Daniel]].
 
Tua 2330 CC, ymgorfforodd [[Sargon Fawr]] Susa yn yr [[Ymerodraeth Acadaidd]], ond erbyn tua 2004 CC, roedd eto yn brifddinas yr Elamitiaid. Yn [[647 CC]], dinistriwyd y ddinas gan frenin [[Assyria]], [[Assurbanipal]], ac yn [[538 CC]] cipiwyd hi gan y Persiaid dan [[Cyrus Fawr]]. Dan fab Cyrus, [[Cambyses II]], symudwyd prifddinas yr ymerodraeth o [[Pasargadae]] i Susa.