Galilea: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: canrifoedd a Delweddau using AWB
B →‎top: clean up
 
Llinell 7:
* Gorllewin Galilea
 
Mae Galilea yn ymestyn o [[Dan]] yn y gogledd, wrth droed [[Mynydd Hermon]], i [[Carmel]] a [[Gilboa]] yn y de, ac o ddyffryn [[Afon Iorddonen]] hyd lannau [[Môr y Canoldir]]. Mae'r rhan fwyaf o'r ardal yn fynyddig, gydag uchder o tua 500-700 medr, gyda nifer o fynyddoedd uwch megis [[Mynydd Tabor]] a [[Mynydd Meron]].
 
Yn y cyfnod Rhufeinig, rhennid y wlad i ranbarthau [[Judea]], [[Samaria]] a Galilea, y mwyaf o'r rhaniadau. Daeth Galilea yn enwog yn y cyfnod yma fel y fan lle magwyd [[Iesu]] o [[Nasareth]] a lle bu'n byw am bron y cyfan o'i fywyd. Yr adeg yma, rheolwr Galilea oedd [[Herod Antipas]], mab [[Herod Fawr]].
 
[[Image:Panorama Safed צפת (Sea of Galilee in the background).jpg|bawd|center|460px|[[Safed]], "prifddinas" Galilea, gyda [[Môr Galilea]] yn y cefndir.]]