Masada: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Higher resolution image added
B →‎top: clean up
Llinell 1:
[[Delwedd:Israel-2013-Aerial 21-Masada.jpg|bawd|300px|Masada.]]
 
Caer a safle archaeolegol yn [[Israel]] yw '''Masada''' ([[Hebraeg]]: מצדה, ''Metzada'', o מצודה, ''metzuda'', "caer"). Saif yn [[Rhanbarth Deheuol (Israel)|Rhanbarth Deheuol]] Israel, ar graig ar ochr ddwyreinol [[Anialwch Judea]]. Mae'r clogwyni'n cyrraedd uchder o 1,300 troedfedd ar yr ochr ddwyreiniol, a thua 300 troedfedd ar yr ochr orllewinol.
 
Yn ôl yr hanesydd [[Josephus]], adeiladodd [[Herod Fawr]] gaer yma rhwng 37 a 31 CC. fel man diogel iddo ef a'i deulu pe bai gwrthryfel yn ei erbyn. Yn [[66]] OC, pan ddechreuodd y [[Rhyfel cyntaf yr Iddewon a Rhufain|gwrthryfel Iddewig]] yn erbyn [[yr Ymerodraeth Rufeinig]], cipiodd grŵp o Iddewon a elwid y [[Sicarii]] y gaer oddi wrth ei garsiwn Rhufeinig. Roeddynt dan arweiniad Elazar ben Ya'ir (efallai yr un person a [[Eleazar ben Simon]]). Yn [[72]] rhoddodd llywodraethwr Rhufeinig Iudaea, [[Lucius Flavius Silva]], a'r [[Lleng Rufeinig|lleng]] [[Legio X Fretensis|X ''Fretensis'']] y gaer dan warchae. Yn Ebrill [[73]] llwyddodd y Rhufeiniaid i dorri trwy fur y gaer. Lladdodd yr amddiffynwyr, 936 ohonynt i gyd, ei gilydd yn hytrach nag ildio.
 
Cloddiwyd y safle rhwng 1963 a 1965 gan yr archaeolegwr Israelaidd [[Yigael Yadin]]. Mae yn awr yn atyniad poblogaidd i dwristiaid, a daeth yn [[Safle Treftadaeth y Byd]] yn [[2001]].