Iudaea: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: canrifoedd a Delweddau using AWB
B →‎top: clean up
Llinell 1:
[[Image:First century Iudaea province.gif|bawd|200px|dde|Talaith Iudaea Province yn y ganrif gyntaf.]]
 
Talaith [[Yr Ymerodraeth Rufeinig|Rufeinig]] yn ardal [[Judea]], [[Palesteina]] o'r wlad sy' nawr yn [[Israel]] oedd '''Iudaea''' ([[Hebraeg]]: יהודה, [[Groeg (iaith)|Groeg]]: ''Ιουδαία''; [[Lladin]]: ''Iudaea''). Enwyd y dalaith ar ôl [[Teyrnas Judah]].
 
Cyrhaeddodd y Rhufeiniaid i'r ardal yn [[63 CC]], pan fu'r cadfridog [[Pompeius Magnus]] yn ymgyrchu yno. Diorseddwyd y brenin [[Judah Aristobulus II]], a gwnaed ei frawd [[Ioan Hyrcanus II]] yn frenin dan awdurdod Rhufain.
 
Am gyfnod bu Judea yn deyrnas dan benarglwyddiaeth Rhufain; o [[40 CC]] hyd [[4 CC]] roedd yn rhan o deyrnas [[Herod Fawr]]. Yn dilyn ei farwolaeth ef, rhannwyd ei deyrnas, gyda rheolwr pob rhan yn dwyn y teitl [[tertrarch]] ("rheolwr dros bedwaredd ran"). Tetrach Judea oedd mab Herod Fawr, [[Herod Archelaus]], ond yn [[6]] OC diorseddwyd ef gan yr ymerawdwr [[Augustus]] yn dilyn apêl iddo gan ddeiliaid Herod.
Llinell 11:
Roedd y dalaith yn un o'r ychydig daleithiau Rhufeinig oedd yn cael ei llywodraethu gan Rufeiniwr o radd ecwestraidd, un radd gymdeithasol yn is na'r llywodraethwyr o radd seneddol yn y taleithiau eraill. Un o'r llywodraethwyr oedd [[Pontius Pilat]], o [[26]] hyd [[36]].
 
Rhwng [[41]] a [[44]], roedd Iudaea yn deyrnas dan [[Agrippa I|Herod Agrippa]]. Wedi ei farwolaeth ef, bu dan reolaeth uniongyrchol Rhufain am gyfnod, cyn ei rhoi i fab Herod Agrippa, [[Agrippa II|Marcus Julius Agrippa]], yn [[48]]. Pan fu ef farw tua [[100]], daeth yn dalaith unwaith eto.
 
{{Taleithiau Rhufeinig}}