Brwydr Adrianople (378): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Billinghurst (sgwrs | cyfraniadau)
B remove redundant template, link FA now managed from Wikidata, removed: {{Cyswllt erthygl ddethol|es}} (2) using AWB
B →‎top: clean up
Llinell 5:
Dechreuodd y problemau i'r ymerodraeth Rufeinig pan symudodd nifer fawr o'r Gothiaid dan [[Fritigern]] i mewn i'r ymerodraeth yn [[Moesia]] a [[Dacia]] oherwydd fod yr [[Hyniaid]] yn ymosod arnynt. Ar y cyntaf fe'u derbyniwyd yn heddychlon, ond yn fuan bu problemau; nid oedd bwyd ar gael iddynt ac roedd y trigolion lleol yn elyniathus iddynt. Heblaw y Gothiaid oedd wedi cael caniatad i groesi'r ffîn, roedd miloedd eraill wedi dod i mewn i'r ymerodraeth heb ganiatad.
 
Enillodd y Gothiaid nifer o frwydrau lleol, ac yn [[378]] daeth yr ymerawdwr yn y dwyrain, Valens, i'w gwrthwynebu. Roedd yr ymerawdwr yn y gorllewin, ei nai [[Gratianus]], ar y ffordd gyda byddin i gynorthwyo, ond mynnodd Valens ymladd cyn iddo gyrraedd. Ar [[9 Awst]] 378, gadawodd Valens a'i fyddin ddinas Adrianople a symud tua'r gogledd i ymosod ar wersyll y Gothiaid. Cyrhaeddasant tua 14:30, a dechrau'r ymosodiad. Roedd y Gothiaid wedi trefu eu wagenni mewn cylch amddiffynnol, a gofynnodd Fritigern am drafodaethau i geisio oedi'r ymosodiad Rhufeinig, gan wybod fod ei wŷr meirch allan o'r gwersyll.
 
Pan ddychwelodd y marchogion Gothaidd, ymosodasant ar ddwy ystlys y fyddin Rufeinig. Gorchfygwyd Valens a'i ladd. Credir i rhwng 10,000 ac 20,000 o filwyr Rhufeinig gael eu lladd yn y frwydr. Gwanychwyd yr ymerodraeth Rufeinig yn fawr gan ei cholledion ym Mrwydr Adrianople, ac mae rhai ysgolheigion yn ystyried mai'r frwydr hon oedd dechrau dirywiad terfynol yr ymerodraeth. Canlyniad arall y frwydr a marwolaeth Valens oedd gwanhau [[Ariadaeth]] yn yr ymerodraeth; roedd Valens yn Ariad ond roedd ei olynwydd, [[Theodosius I]], yn dilyn [[Credo Nicea]].
 
 
 
 
[[Categori:Brwydrau Ymerodraeth Rhufain|Adrianople (378)]]