Thrace: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: canrifoedd a Delweddau, replaced: 14eg ganrif14g using AWB
B →‎top: clean up
Llinell 1:
[[Image:Thrace modern state boundaries.png|bawd|Ffiniau modern Thrace yng [[Gwlad Groeg|Ngwlad Groeg]], [[Twrci]] a [[Bwlgaria]].]]
 
Mae '''Thrace''' ([[Groeg]]:Θράκη ''Thráki'', [[Groeg Attig]]: {{Hen Roeg|Θρᾴκη}} ''Thrāíkē'' neu {{Hen Roeg|Θρῄκη}} ''Thrēíkē'', [[Lladin]] '''Thracia''') yn ardal yn ne-ddwyrain [[Ewrop]]. Heddiw defnyddir Thrace am diriogaeth sy'n ymestyn dros dde-ddwyrain [[Bwlgaria]] (Gogledd Thrace), gogledd-ddwyrain [[Gwlad Groeg]] (Gorllewin Thrace), a rhan Ewropeaidd [[Twrci]] (Dwyrain Thrace). Gelwir y rhan yn Nhwrci hefyd yn "Rumeli". Roedd yr hen Thrace (y tiriogaethau lle roedd y [[Thraciaid]] yn byw) hefyd yn cynnwys rhan o ddwyrain [[Serbia]] a dwyrain [[Gweriniaeth Macedonia]].
 
Roedd y Thraciaid wedi ei rhannu yn nifer o lwythau, heb fod wedi uno yn un wladwriaeth. Ymsefydlodd rhai Groegiaid yno o'r 6ed ganrif CC. ymlaen, a chafodd diwylliant Groeg gryn ddylanwad yn yr ardal. Ymddangosodd rhai Thraciaid, megis [[Orpheus]], ym [[mytholeg Groeg]]. Daeth yr ardal yn rhan o Ymerodraeth [[Persia]] wedi iddi gael ei choncro gan [[Darius Fawr]] yn [[513 cC]] - [[512 CC]]. Wedi i'r Persiaid encilio, rhannwyd Thrace yn dair rhan. Yn y 4edd ganrif CC. concrwyd Thrace gan [[Philip II, brenin Macedon]] a bu dan reolaeth y Macedoniaid hyd nes i'r Rhufeiniaid eu gorchfygu ym [[Brwydr Pydna|Mrwydr Pydna]] yn 168 CC. a chymeryd meddiant o Thrace. Yn [[279 CC]], symudodd [[Y Celtiaid|Celtiaid]] o Gâl i Thrace ac ymsefydlu yno hyd ddiwedd y ganrif.
 
Am gyfnod, roedd Thrace yn nifer o deyrnasoedd hanner-annibynnol dan reolaeth Rhufain, ond wedi cyfnod o derfysg daeth yn dalaith Rufeinig [[Thracia]] yn [[46]]. Roedd y llengoedd yn [[Moesia]] yn gyfrifol am ddiogelwch y dalaith. Yn ddiweddarach bu ymladd am Thrace rhwng yr [[Ymerodraeth Fysantaidd]] a Bwlgaria, nes i'r [[Ymerodraeth Ottomanaidd]] gymeryd meddiant o'r ardal yn y [[14g]] a dal gafael arni am bum canrif.
 
==Thraciaid enwog==