Ymerodraeth Trebizond: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Legobot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 44 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q178913 (translate me)
B →‎top: clean up
Llinell 1:
[[Delwedd:Byzantium1204.png|bawd|270px|Ymerodraeth Trebizond, yr [[Ymerodraeth Ladin]], [[Ymerodraeth Nicea]] ac [[Unbennaeth Epirus]] yn 1204.]]
 
Sefydlwyd '''Ymerodraeth Trebizond''' ([[Groeg (iaith)|Groeg]]: Βασίλειον τής Τραπεζούντας, yn 1204, wedi i'r [[yr Ymerodraeth Fysantaidd|Ymerodraeth Fysantaidd]] ymrannu'n nifer o ddarnau yn dilyn cipio dinas [[Caergystennin]].
 
Cipiwyd Caergystennin gan y croesgadwyr ar anogaeth [[Fenis]] yn ystod [[y Bedwaredd Groesgad]] yn 1204, a sefydlasant hwy eu hymerodraeth ei hunain, yr [[Ymerodraeth Ladin]], yng Nghaergystennin a rhai o diriogaethau'r Ymerodraeth Fysantaidd. Un o'r rhannau yr ymrannodd yr Ymerodraeth Fysantaidd iddynt oedd Ymerodraeth Trebizond, gyda'r brifddinas yn Trebizond ([[Trabzon]] yn [[Twrci|Nhwrci]] yn awr). Sefydlwyd yr ymerodraeth gan [[Alexios I, ymerawdwr Trebizond|Alexius I]], ŵyr yr ymerawdwr Bysantaidd [[Andronikos I Komnenos]], a gymerodd feddiant ar ddinasoedd Groegaidd Trebizond a [[Sinop, Twrci|Sinope]] a [[Paphlagonia]].
 
Wedi i ddinas [[Baghdad]] gael ei dinistrio gan [[Hulagu Khan]] yn 1258, Trebizond oedd pen dwyreiniol [[Ffordd y Sidan]], ac yn ystod teyrnasiad [[Alexios III, ymerawdwr Trebizond|Alexios III]] (1349 - 1390) daeth yn un o ganolfannau masnach pwysicaf y byd ac yn gyfoethog iawn. Parhaodd ymerodraeth Trebizond hyd [[1461]], pan gymerwyd meddiant ar ei thiriogaethau gan yr [[Ymerodraeth Ottomanaidd]].