Yr Ymerodraeth Fysantaidd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B canrifoedd a Delweddau, replaced: 11eg ganrif11g, 5ed ganrif5g using AWB
B clean up
Llinell 5:
== Dechreuadau'r Ymerodraeth Fysantaidd ==
 
Mae'n anodd dweud pryd daeth [[yr Ymerodraeth Rufeinig]] i ben a phryd dechreuodd yr Ymerodraeth Fysantaidd. Rhannodd yr ymerodr [[Diocletian]] yr ymerodraeth yn ddwy ran, yr Ymerodraeth Ddwyreinol a'r Ymerodraeth Orllewinol, am bwrpasau gweinyddol, yn y flwyddyn [[284]]. Gellir dyddio'r Ymerodraeth Fysantaidd o deyrnasiad [[Cystennin I]], yr ymerodr Cristnogol cyntaf, a symudodd y [[prifddinas|brifddinas]] i Gaergystennin. Gellir hefyd ei dyddio i deyrnasiad [[Valens]]; lladdwyd ef yn ymladd yn erbyn y [[Gothiaid]] ym [[Brwydr Adrianople (378)|Mrwydr Adrianople]] yn [[378]], ac mae'r flwyddyn hon yn un o'r dyddiadau traddodiadol ar gyfer dechrau [[yr Oesoedd Canol]]. [[Arcadius]] a [[Theodosius I]] oedd yr ymerodron olaf i reoli'r cyfan o'r ymerodraeth, gorllewin a dwyrain.
 
Mae eraill yn dadlau bod yr ymerodraeth Fysantaidd wedi ddechrau mor hwyr ag yn oes [[Heraclius]] (a wnaeth yr [[Groeg|iaith Roeg]] yn iaith swyddogol), ac mae arbenigwyr arian bath yn ei gyfri o ddiwygiad ariannol [[Anastasius I (ymerawdwr)|Anastasius I]] yn [[498]]. Dylid cofio, fodd bynnag, mai term a ddefnyddir gan haneswyyr diweddar yw "yr Ymerodraeth Fystantaidd", ac mai fel "yr ymerodraeth Rufeinig" y byddai ei thrigolion yn ei hystyried hyd ei diwedd yn
Llinell 22:
Dywedir i Cystennin gael gweledigaeth cyn brwydr Pont Milvius. Gwelodd groes o flaen yr haul, yn darogan ei fuddugoliaeth. Wedi’r frwydr cymerodd arwydd Cristnogol, y ‘’Crismon’’ , fel baner. Credir i’w fam, Helena, oedd o deulu Cristionogol, gael dylanwad mawr arno. Yn 325 bu Cystennin yn gyfrifol am alw [[Cyngor Cyntaf Nicaea]] a wnaeth y grefydd Gristionogol yn gyfreithlon yn yr ymerodraeth am y tro cyntaf. Er hynny ni chafodd ei fedyddio yn Gristion ei hun nes oedd ar ei wely angau. Ail-sefydlodd Cystennin ddinas Byzantium fel [[Caergystennin]] (''Constantini-polis''), [[Istanbul]] heddiw.
 
O [[375]] ymlaen, roedd tri ymerawdwr yn rheoli darnau o'r ymerodraeth: [[Valens]], [[Valentinian II]] a [[Gratian]]. Pan laddwyd [[Valens]] ym [[Brwydr Adrianople|Mrwydr Adrianople]] yn [[378]], penododd Gratian [[Theodosius I|Theodosius]] yn ei le fel ''cyd-augustus'' yn y dwyrain. Lladdwyd Gratian mewn gwrthryfel yn [[383]], a bu farw Valentinian II yn [[392]], gan adael Theodosius yn unig ymerawdwr. Teyrnasodd Theodosius hyd [[395]]; ef oedd yr ymerawdwr olaf i deyrnasu dros yr ymerodraeth gyfan. Gwnaeth [[Cristionogaeth|Gristionogaeth]] yn grefydd swyddogol yr ymerodraeth.
 
Dilynwyd Theodosius gan ei ddau fab, [[Flavius Augustus Honorius|Honorius]] yn y gorllewin ac [[Arcadius]] yn y dwyrain, ac ni chafodd y ddau ran eu had-uno eto. Erbyn hyn roedd y [[Fisigothiaid]] dan eu brenin [[Alaric I]] yn bygwth yr ymerodraeth. Yn [[401]] gwnaeth gytundeb ag Arcadius a'i galluogodd i arwain ei fyddin tua'r gorllewin. Ym mis Awst [[410]] cipiodd ddinas [[Rhufain]] a'i hanrheithio, y tro cyntaf i'r ddinas gael ei chipio gan elyn ers [[390 CC]].
 
Cynhaliwyd [[Cyngor Chalcedon]] dan nawdd yr ymerawdwr [[Marcianus]] (450 - 457) yn ninas [[Chalcedon]] yng ngorllewin [[Asia Leiaf]] yn y flwyddyn [[451]]. Dyma'r pedwaredd cyngor eglwysig i gael ei gynnal gan yr [[Eglwys]] gynnar. Ynddo comdemniwyd dysgeidiaeth [[monoffisiaeth]], sy'n honni fod natur ddynol Crist wedi ei llwyr lyncu gan ei natur ddwyfol. Y ddysgeidiaeth a dderbyniwyd gan y Cyngor oedd "dwy natur mewn un person". Ynyswyd rhai o'r eglwysi dwyreiniol, [[Eglwysi'r tri cyngor]], mewn canlyniad, gan gynnwys [[yr Eglwys Goptaidd]] yn [[yr Aifft]]. Roedd y rhain yn credu mewn un natur, a bu ymryson rhwng y monoffisiaid a'r Chalcedoniaid yn nodwedd o hanes yr ymerodraeth am y ddwy ganrif nesaf.
Llinell 41:
Daeth [[Justinianus I]] yn ymerawdwr yn [[527]], ond mae'n bosibl ei fod eisoes yn rheoli'r ymerodraeth yn rhan olaf teyrnasiad ei ewythr, [[Justinus I]] (518–527). Yn [[532]], diogelodd Justinianus ei ffîn ddwyreiniol trwy wneud cytundeb heddwch a [[Khosrau I, brenin Persia]]. Yr un flwyddyn bu terfysgoedd Nika yng Nghaergystennin; dywedir i'r rhain arwain at farwolaeth 30,000 o'r trigolion.
 
Dechreuodd Justinianus ymgyrch i geisio adennill y tiriogaethau a gollwyd yn y gorllewin. Penododd y cadfridog [[Belisarius]] yn arweinydd ymgyrch yn erbyn y [[Fandaliaid]] yng Ngogledd Affrica rhwng [[533]] a [[534]]. Ym [[Brwydr Ad Decimum|Mrwydr Ad Decimum]] ([[13 Medi]] [[533]]) gerllaw [[Carthago]], gorchfygodd [[Gelimer]], brenin y Fandaliaid. Enillodd fuddugoliaeth arall ym mrwydr Ticameron, ac ildiodd Gelimer tua dechrau [[534]].
 
Yn [[535]] gyrrwyd Belisarius ar ymgyrch i geisio adennill tiriogaethau'r Ymerodraeth Rufeinig yn y gorllewin. Glaniodd yn yr [[Eidal]], oedd ym meddiant yr [[Ostrogothiaid]] a chipiodd ddinas [[Rhufain]] yn [[536]], yna symudodd tua'r gogledd i gipio Mediolanum ([[Milano]] heddiw) yna yn [[540]] [[Ravenna]], prifddinas yr Ostrogothiaid. Dywedir i'r Ostrogothiaid gynnig derbyn Belisarius fel Ymerawdwr y Gorllewin; cymerodd yntau arno dderbyn y cynnig a defnyddio'r cyfle i gymeryd brenin yr Ostrogothiaid yn garcharor. Yn ddiweddarach galwyd ef o'r Eidal i wynebu ymgyrch Bersaidd yn [[Syria]] [[541]] -[[542]]).
Llinell 55:
Dyrchafwyd [[Tiberius II]] Cystennin, oedd yn gyfaill i Justinus, yn gyd-ymerawdwr yn [[574]] ar gyngor yr ymerodres Sophia, a bu'n rheoli'r ymerodraeth ar y cyd a hi hyd ar farwolaeth Justinus, pan ddaeth yn ymerawdwr ar ei ben ei hun. Gorchfygodd y Persiaid yn [[Armenia]], a diogelwyd tiriogaethau'r ymerodraeth yn [[Sbaen]] a [[Gogledd Affrica]]. Ni allodd atal y [[Slafiaid]] rhag ymosod ar y [[Balcanau]]. Enwodd ei fab-yng-nghyfraith, [[Mauricius]], fel ei olynydd ychydig cyn ei farwolaeth yn [[582]]; roedd sibrydion ei fod wedi ei wenwyno.
 
Eifeddodd Mauricius yr ymerodraeth ar gyfnod anodd, gyda thrafferthion ariannol, yr angen i dalu arian i aral yr [[Afariaid]] rhag ymosod a'r rhyfel yn erbyn Persia yn parhau. Gorchfygodd y Persiaid ger [[Dara]] yn [[586]]. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, bu rhyfel catref ym Mhersia, a rhoddodd Mauricius fenthyg byddin i roi [[Chosroes II]] ar yr orsedd. Enillodd rannau o [[Mesopotamia]] ac [[Armenia]] yn gyfnewid am ei gymorth. Wedi cael heddwch ar ei ffîn ddwyreiniol, bu Mauricius yn ymladd yn y Balcanau, gan ad-ennill [[Singidunum]] oddi wrth yr [[Afariaid]] yn [[592]]; ac enillodd ei gadfridog Priscus gyfres o fuddugoliaethau yn [[593]].
 
Yn [[602]], gorchymynodd yr ymerawdwr fod ei fyddin i dreulio'r gaeaf tu hwnt i [[Afon Donaw]], a dechreuodd gwrthryfel dan arweiniad [[Phocas]]. Bu terfysg yng Nghaergystennin, a chymerwyd Mauricius yn garcharor wrth iddo geisio ffoi. Llofruddiwyd ef ar [[27 Tachwedd]], 602; dywedir i'w dri mab gael eu lladd o flaen ei lygaid yn gyntaf. Cyhoeddwyd Phocas yn ymerawdwr.
Llinell 65:
Achubodd Khosrau, brenin Persia, y cyfle i ddiddymu ei gytundeb a Mauricius ac ail-gipio [[Mesopotamia]]. Roedd Phocas yn amhoblogaidd a bu nifer o gynllwynion yn ei erbyn. Yn y diwedd, diorseddwyd ef gan [[Heraclius]] yn [[610]]. Ymosododd y Persiaid ar [[Asia Leiaf]], gan gipio [[Damascus]] a [[Jeriwsalem]] a dwyn [[y Wir Groes]] i [[Ctesiphon]]. Llwyddodd Heraclius i ddinistrio'r fyddin Bersaidd ger [[Ninefeh]] yn [[627]], a dychwelyd y Wir Groes i Jeriwsalem yn [[629]]. Roedd yr ymladd wedi gwanhau yr ymerodraeth Fysantaidd a'r Persiaid fel ei gilydd, gan ei gwneud yn anodd iddynt wrthsefyll y byddinoedd [[Arab]]aidd a ymosododd arnynt yn y blynyddoedd nesaf. Gorchfygwyd y Bysantiaid gan yr Arabiaid ym Mrwydr Yarmuk yn [[636]], tra syrthiodd Ctesiphon iddynt yn [[634]].
 
Heraclius oedd yr ymerawdwr cyntaf i ddefnyddio'r teitl Groeg ''[[Basileus]]'' (Βασιλεύς) yn lle'r teitl [[Lladin]] traddodiadol ''Augustus'', a dechreuwyd defnyddio Groeg yn lle Lladin mewn dogfennau swyddogol. Roedd llawer o ddadleuon diwinyddol rhwng y [[Monoffisiaeth|monoffisiaid]] a'r [[Chalcedoniaid]], ac awgrymodd Heraclius gyfaddawd, [[monotheletiaeth]], a gyhoeddwyd mewn dogfen a roddwyd ar narthex eglwys Hagia Sophia yn 638. Erbyn hyn roedd yr Arabiaid wedi cipio Syria a Palesteina, a syrthiodd [[yr Aifft]] iddynt yn 642.
 
Llwyddodd Heraclius i sefydlu brenhinllin yr Heracliaid, a barhaodd hyd 711. Olynwyd ef gan ei fab, a fu'n farw'n fuan wedyn, yna gan ei ŵyr [[Constans II]]. Llofruddiwyd ef yn [[668]], a daeth ei fab, [[Cystennin IV]] i'r orsedd. Yn [[670]], cipiodd yr Arabiaid Benrhyn Cyzicus ac yn [[674]] gosodasant ddinas Caergystennin ei hun dan warchae. Gorfodwyd hwy i godi'r gwarchae ac encilio yn [[678]], yn rhannol oherwydd arf newydd oedd wedi ei ddyfeisio gan y pensaer a mathenategydd [[Kallinikos]], y [[Tân Groegaidd]] a roddodd fantais fawr i'r ymerodraeth. Bu farw Cystennin yn [[685]], ac olynwyd ef gan ei fab, [[Justinianus II]]. Cafodd ef nifer o fuddugoliaethau dros yr Arabiaid ar y cychwyn, ond yn ddiweddarach collwyd [[Armenia]] iddynt yn [[691]] a [[Carthago]] yn [[697]].
 
Yn raddol, collwyd gafael ar diriogaethau yn y dwyrain a'r gorllewin. Yn [[717]] daeth [[Leo III]] i'r orsedd. Bu Leo yng ngwasanaeth yr ymerawdwr [[Justinianus II]], yna apwyntiwyd ef yn ''stratēgos'' y thema Atolig gan yr ymerawdwr [[Anastasios II]]. Pan ddiorseddwyd Anastasios II, gwnaeth Leo gynghrair ag [[Artabasdos|Artabasdus]], ''stratēgos'' y theme Armeniac, yn erbyn yr ymerawdwr newydd, [[Theodosios III]]. Meddiannodd Leo Gaergystennin a dod yn ymerawdwr yn 717.
 
Yn fuan wedyn daeth Caergystennin dan warchae gan fyddin Arabaidd Ummayad o 80,000 o wŷr
Llinell 78:
[[Delwedd:Solidus-Irene-sb1599.jpg|bawd|chwith|300px|Darn arian ''solidus'' gyda delw Irene]]
 
Adferwyd y defnydd o eiconau mewn addoliad gan yr ymerodres [[Irene (ymerodres)|Irene]] (797-802). Ganed Irene yn [[Athen]], a daethwwyd a hi i Gaergystennin fel merch amddifad gan yr ymerawdwr [[Cystennin V]]. Yn 769 priododd fab Cystennin V, [[Leo IV]]. Yn 771 cafodd Irene a Leo fab, a ddaeth yn ymerawdwr fel [[Cystennin VI]] pan fu farw Leo IV yn [[780]]. Oherwydd ei oed, gweithredai Irene fel rheolwr y deyrnas. Llwyddodd i orchfygu nifer o wrthryfeloedd yn ei herbyn, a bu'n ymladd yn erbyn y [[Ffranciaid]], a gipiodd [[Istria]] a [[Benevento]] yn 788, ac yn erbyn y Califfiaid [[Abbasaidd]] [[Al-Mahdi]] a [[Harun al-Rashid]].
 
Wrth i Gystennin VI ddod yn hŷn, daeth yn anfodlon fod y grym yn nwylo ei fam. Bu gwrthryfel yn [[790]], pan gyhoeddodd milwyr y gard Armenaidd Cystennin fel unig ymerawdwr. Yn [[797]] cymerodd Irene ei mab yn garcharor, a'i ddallu. Bu farw o'i anafiadau rai dyddiau'n ddiweddarach. Nid oedd [[Pab Leo III]] yn barod i gydnabold merch fel rheolwr, ac yn [[800]] coronodd [[Siarlymaen]] fel [[Ymerawdwr Glân Rhufeinig]]. Gwaethygodd hyn y berthynas rhwng yr [[Eglwys Gatholig]] a'r [[Eglwys Uniongred]], er y dywedir i Irene gynnig priodi Siarlymaen.
Llinell 87:
 
Dechreuodd sefyllfa'r ymerodraeth wella o ganlyniadau i newidiau a wnaed yn ystod teyrnasiad yr ymerawdwr [[Mihangel III]] (842–867) gyda chymorth cynghorydd ei wraig, [[Theoktistos]], a wnaeth lawr i wella'r sefyllfa economaidd. Dilynwyd ef ar yr orsedd gan
[[Basileios I]] (867–886), sylfaenydd y frenhinllin Facedonaidd. Erbyn hyn roedd y mudiad eiconoclastig wedi gwanhau yn fawr, felly roedd llai o ymryson crefyddol.
 
[[Delwedd:SimeonTheGreatAntonoff.jpg|bawd|chwith|Simeon, ymerawdwr Bwlgaria, o flaen muriau Caergystennin]]
Llinell 93:
Dechreuodd rhyfel rhwng yr ymerodraeth a [[Simeon I, ymerawdwr Bwlgaria]] pan ymyrrodd [[Leo VI]] a marsiandïwyr Bwlgaraidd yn yr ymerodraeth. Ymosododd Simeon ar y Bysantiaid, gan ennill buddugoliaeth fawr, ond bu raid iddo encilio i ddelio ag ymosodiad gan y Magyar. Cytunwyd i gadoediad yn [[895]]. Gorchfygodd Simeon y Magyar yn [[896]], cyn ymosod ar y Bysantiaid eto a'u gorchfygu ym Mrwydr Bulgarophygon. Gosododd Gaergystennin dan warchae, ond llwyddodd Leo VI i amddiffyn y ddinas, yn rhannol trwy roi arfau i garcharorion Arabaidd i ymnladd yn erbyn y Bwlgariaid. Gwnaed cytundeb heddwch, gyda'r Ymerodraeth Fysantaidd yn talu teyrnged flynyddol i Simeon.
 
Pan fu farw Leo VI yn [[912]], gwrthododd ei frawd Alexander, oedd yn rhaglaw dros fab Leo, [[Cystennin VII]], dalu'r deyrnged flynyddol. Ymosododd Simeon ar yr Ymerodraeth Fysantaidd eto, gan obeithio gwireddu ei uchelgais o gipio Caergystennin. Bu farw Alexander yn [[913]], a bu terfysgoedd yng Nghaergystennin. Perswadidwyd Simeon i wneud cytundeb heddwch gan y Patriarch Nicholas; cytunwyd i dalu'r deyrned a bod Cystennin VII i briodi un o ferched Simeon, a fyddai'n cael ei gydnabod yn swyddogol gan y Patriarch fel Ymerawdwr Bwlgaria.
 
Bu rhyfel arall rhwng Simeon a'r Bysantiaid yn [[917]], pan ymosododd byddin Fysantaidd dan Leo Phokas ar Fwlgaria. Gorchfygodd Simeon hwy ym Mrwydr Anchialos, gan ladd nifer mawr ohonynt. Yn dilyn y frwydr yma, aeth y cadfridog [[Romanos Lekapenos]] i Gaergystennin, lle roedd yr ymerodres [[Zoe Karvounopsina]] yn rheoli ar ran yr ymerawdwr ieuanc [[Cystennin VII]]. Llwyddodd Romanos i ennill grym oddi wrth Zoe a'i chefnogwr Leo Phokas, ac yn mis Mai 919 priododd ei ferch [[Helena Lekapene]] a Chystennin. Ym mis Rhagfyr [[920]] cyhoeddwyd Romanos yn gyd-ymerawdwr fel [[Romanos I|Romanos I Lekapenos]], gan ddod yn rheolwr yr ymerodraeth.
Parhaodd yr ymladd yn erbyn y Bwlgariaid am rai blynyddoedd, Simeon yn cipio [[Adrianople]] yn [[921]]. Cyfarfu Simeon a Romanos yn [[924]] a gwnaed cytundeb heddwch.
 
Wedi marwolaeth Simeon yn 927, gwnaed cytundeb heddwch a'r Bwlgariaid a barhaodd am ddeugain mlynedd. Gyrrodd Romanos ei gadfridog [[Ioan Kourkouas]] i ymgyrchu yn y dwyrain yn erbyn llinach yr [[Abbasid]], ac enillodd Ioan frwydr bwysig ym Melitene yn 934, gan gipio'r ddinas. Yn 941 ymosodwyd ar Gaergystennin gan [[Rus Kiev]], ond gorchfygwyd hwy gan Ioan Kourkouas ac yn [[944]] gwnaed cytundeb heddwch ag [[Igor I, tywysog Kiev]]. Yn 943 bu Kourkouas yn ymgyrchu yng ngogledd [[Mesopotamia]], a bu'n gwarchae ar [[Edessa, Mesopotamia|Edessa]] yn 944.
 
Yn ei henaint, aeth Romanos i boeni am farn ddwyfol oherwydd iddo gymeryd yr orsedd oddi wrth Cystennin VII. Roedd ei feibion, Steffan a Cystennin, yn poeni y byddai Romanos yn gadael i Gystennin VII ei olynu yn hytach na hwy, ac yn Rhagfyr [[944]] cymerasant eu tad i'r ddalfa a'i orfodi i fynd yn fynach ar Ynysoedd y Tywysogion. Fodd bynnag, roedd pobl Caergystennin o blaid Cystennin VII, a gyrrwyd hwythau i alltudiaeth.
Llinell 106:
[[Delwedd:Basilios II.jpg|bawd|Basileios II, llun mewn llawysgrif o'r [[11g]].]]
 
Bu farw'r ymerawdwr [[Romanos II]] yn 963, pan nad oedd ei fab hynaf ond pump oed. Ail-briododd ei wraig, Theophano, ag un o gadfridogion Romanos, a ddaeth yn ymerawdwr fel [[Nikephoros II]] Phokas. Llofruddiwyd Nikephoros yn 969, a daeth cadfridog arall, [[Ioan I Tzimiskes]], yn ymerawdwr. Erbyn iddo ef farw ar [[10 Ionawr]], [[976]], roedd mab hynaf Romanos II yn ddigon hen i ddod i'r orsedd fel [[Basileios II]].
 
Roedd Basileios yn filwr galluog, a bu'n ymladd llawer yn erbyn yr Arabiaid, oedd yn gwarchae ar [[Aleppo]] ac yn bygwth [[Antioch]]. Enillodd Basileios nifer o fwydrau yn eu herbyn yn [[Syria]] yn 995, gan anrheithio dinasoedd cyn belled a [[Tripoli]] ac ychwanegu'r rhan fwyaf o Syria at yr ymerodraeth. Bu'n ymladd llawer yn erbyn [[Samuil, ymerawdwr Bwlgaria]] hefyd, gan warchae ar Sredets ([[Sofia]]) yn 986. Methodd gipio'r ddinas, a gorchfygwyd ef ym Mrwydr Trayanovi Vrata ar y ffordd yn ôl i Thrace. Collwyd [[Moesia]] i'r Bwlgariaid am gyfnod, ond gallodd Basileios ei hennill yn ôl yn 1001 - 1002. Cipiodd [[Skopje]] yn 1003 a [[Durazzo]] yn 1005. Ar [[29 Gorffennaf]], [[1014]], enillodd Basileios fuddugoliaeth fawr dros y Bwlgariaid ym Mrwydr Kleidion. Dywedir iddo gymeryd 15,000 o garcharorion, a dallu 99 o bob cant ohonynt. Ildiodd Bwlgaria yn derfynol yn 1018, ac yn ddiweddarach ildiodd y [[Serbiaid]] hefyd, gan ddod a ffîn yr ymerodraeth at [[Afon Donaw]] am y tro cyntaf mewn pedair canrif. Bu hefyd yn ymladd yn erbyn y [[Khazar]], a chipiodd dde y [[Crimea]] oddi wrthynt.
Llinell 116:
[[Delwedd:Romanos et Eudoxie.JPG|bawd|200px|chwith|Diptych o Romanus IV Diogenes ac Eudocia Macrembolitissa, yn cael eu coroni gan Grist ([[Bibliothèque nationale de France]])]]
 
Cyhaeddodd [[y Sgism Fawr]], ymraniad yr [[Eglwys Uniongred Ddwyreiniol]] a'r [[Eglwys Gatholig]] oddi wrth ei gilydd, ei uchafbwynt cyntaf yn [[1054]] pan ysgymunwyd y patriarch [[Cerularius, patriarch Caergystennin|Cerularius]] o Gaergystennin ([[1043]] - [[1058]]) gan y [[Pab]] am iddo feirniadu [[gwyryfdod]] fynachaidd orfodol y Gorllewin a defnyddio bara heb ei godi yn yr offeren fel arferion [[heresi|hereticaidd]].
 
Yn [[1068]] daeth [[Romanos IV|Romanos IV Diogenes]] yn gyd-ymerawdwr gyda [[Mihangel VII]], Konstantios Doukas, ac [[Andronikos Doukas]], ond ganddo ef yr oedd y pwer. Ymladdodd dair ymgyrch lwyddiannus yn erbyn y [[Twrciaid Seljuk]], gan eu gyrru tu draw i [[Afon Ewffrates]] yn 1068 - 1069. Yn 1071 dechreuodd ymgyrch arall yn erbyn dinas [[Malazgirt|Manzikert]]. Wedi rhai llwyddiannau ar y dechrau, gorchfygwyd Romanos ym [[Brwydr Manzikert|Mrwydr Manzikert]] ar [[26 Awst]], [[1071]]. Cymerwyd Romanos yn garcharor gan y Swltan [[Alp Arslan]]. Rhyddhawyd ef yn gyfnewid am dâl sylweddol.
Llinell 142:
Bwriad [[y Bedwaredd Groesgad]] ([[1202]] - [[1204]]) oedd cipio [[Jeriwsalem]] oddi wrth luoedd [[Islam]], gan ymosod trwy [[yr Aifft]]. Yn [[1198]] daeth [[Pab Innocent III]] yn Bab, a dechreuodd bregethu'r angen am groesgad arall. Gyda chymorth pregethu [[Fulk o Neuilly]], codwyd byddin o groesgadwyr. Etholwyd [[Thibaut III, Cownt Champagne]] yn arweinydd yn 1199, ond bu ef farw yn 1200 a chymerwyd ei le gan Eidalwr, [[Boniface o Montferrat]]. Gyrrodd yr arweinwyr lysgenhadon at [[Fenis]] a [[Genoa]] i geisio trefnu llongau, a chytunodd Fenis i gludo'r croesgadwyr.
 
Cychwynnodd y mwyafrif o'r croesgadwyr o Fenis yn Hydref 1202; y rhan fwyaf ohonynt o [[Ffrainc]]. Cychwynnodd rhai o borthladdoedd eraill, megis [[Marseilles]] a [[Genoa]]. Roedd Fenis wedi gofyn am 85,000 o farciau arian am eu cludo, ond dim ond 51,000 y gallai'r croesgadwyr ei dalu. Oherwydd hyn, roedd gwŷr Fenis yn chwilio am gyfle i ad-ennill eu colledion ariannol. Yn dilyn yr ymosodiadau ar dramorwyr yng Nghaergystennin yn 1182, roedd marsiandïwyr Fenis wedi eu gorfodi i adael y ddinas. Oherwydd hyn, roedd y Fenetiaid a'u ''[[Doge]]'' Dandolo yn elyniaethus i Gaergystennin. Awgrymodd Dandolo y dylai'r croesgadwyr dalu'r gweddill o'u dyled trwy ymosod ar borthladd [[Zadar|Zara]] yn [[Dalmatia]] ([[Zadar]] yn [[Croatia]] heddiw), oedd yn rhan o'r Ymerodraeth Fysantaidd.
 
Daeth y croesgadwyr i gysylltiad a'r tywysog Bysantaidd [[Alexius IV Angelus|Alexius Angelus]], mab yr ymerawdwr [[Isaac II Angelus]] oedd wedi ei ddiorseddu'n ddiweddar. Roedd Alexius yn alltud yn llys [[Philip o Swabia]], a chynigiodd arian a milwyr i'r croesgadwyr pe baent yn ymosod ar Gaergystennin, diorseddu'r ymerawdwr [[Alexius III Angelus]] a rhoi Isaac II yn ôl ar yr orsedd.
 
[[Delwedd:Byzantium1204.png|bawd|chwith|270px|Ymerodraeth Nicaea, yr [[Ymerodraeth Ladin]], [[Ymerodraeth Trebizond]] ac [[Unbennaeth Epirus]] yn 1204.]]
Llinell 158:
[[Delwedd:Double-headed_eagle_of_the_Greek_Orthodox_Church.svg|bawd|180px|Arfbais ymerodron Brenhinllin Palaiologos]]
 
Yn fuan ar ôl marwolaeth yr ymerawdwr [[Theodore II Laskaris|Theodore II Doukas Laskaris]], llywodraethwr [[Ymerodraeth Nicaea]], yn [[1258]], daeth [[Mihangel VIII Palaiologos]] yn raglaw dros yr ymerawdwr ieuanc [[Ioan IV Laskaris|Ioan IV Doukas Laskaris]], yna yn [[1259]] yn gyd-ymerawdwr. Ar [[25 Gorffennaf]], [[1261]], llwyddodd cadfridog Mihangel VIII, [[Alexios Strategopoulos]], i ennill dinas [[Caergystennin]] yn ôl oddi wrth olynwyr y croesgadwyr, gan ail-greu'r Ymerodraeth Fysantaidd. Yn Awst yr un flwyddyn, dallwyd Ioan IV, a'i yrru i fynachlog.
 
Llwyddodd Mihangel VIII i orchfygu Epirus, a bu llawer o ymladd yn erbyn y gelynion oedd yn ei hamgylchynu, ond roedd yr ymerodraeth wedi ei gwanychu'n fawr gan ddigwyddiadau'r blynyddoedd cynt. Parhaodd yr ymladd dan [[Andronikos II Palaiologos|Andronikos II]] a'i ŵyr [[Andronikos III Palaiologos|Andronikos III]], ond roeddynt yn gorfod dibynnu'n drwm ar filwyr hur.
 
[[Delwedd:Byzantium1430.JPG|chwith|bawd|Yr Ymerodraeth Fysantaidd (coch) erbyn 1430.]]
Llinell 173:
* [[Rhestr Ymerodron Bysantaidd]]
* [[Asia Leiaf]]
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
[[Categori:Yr Ymerodraeth Fysantaidd| ]]