Belisarius: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: canrifoedd a Delweddau using AWB
B →‎top: clean up
Llinell 1:
[[Image:David - Belisarius.jpg|300px|dde|bawd|Belisarius, gan [[Jacques-Louis David]] ([[1781]])]]
 
'''Flavius Belisarius''', [[Groeg]] Βελισάριος , ([[505]]-[[565]]), oedd cadfridog enwocaf yr [[Ymerodraeth Fysantaidd]]. Dan yr ymerawdwr [[Justinianus I]], bu'n gyfrifol am adfenniannu rhan helaeth o'r [[Ymerodraeth Rufeinig]] yn y gorllewin, tiriogaethau oedd wedi eu colli am dros ganrif.
 
Credir i Belisarius gael ei eni yn ninas ''Germane'' neu ''Germania'', heddiw [[Sapareva Banya]] yn ne-orllewin [[Bwlgaria]]. Ymunodd a'r fyddin yn ieuanc, a daeth yn aelod o warchodlu'r ymerawdwr [[Justinus I]]. Wedi marwolaeth Justinus, penododd yr ymerawdwr newydd, Justinianus, ef yn gadfridog ar y fyddin yn y dwyrain, i wynebu ymosodiadau gan [[Ymerodraeth Persia]]. Gorchfygodd y Persiaid ym Mrwydr Dara yn [[530]] ac ym Mrwydr Callinicum ar [[Afon Ewffrates]] yn [[531]]. Yn [[532]] ef oedd swyddog uchaf y fyddin yng [[Caergystennin|Nghaergystennin]] pan fu terfysg [[Nika]]yn y ddinas; llwyddodd Belisarius i roi diwedd ar y gwrthryfel, gyda tua 30,000 o bobl yn cael eu lladd.
Llinell 7:
[[Image:Justinien 527-565.svg|bawd|300px|Tŵf tiriogaeth yr Ymerodraeth Fysantaidd rhwng dechrau teyrnasiad Justinianus I (coch, 527) a'i farwolaeth (oren, 565). Belisarius oedd yn bennaf gyfrifol am hyn.]]
 
Penodwyd Belisarius yn arweinydd ymgyrch yn erbyn y [[Fandaliaid]] yng Ngogledd Affrica rhwng [[533]] a [[534]]. Ym [[Brwydr Ad Decimum|Mrwydr Ad Decimum]] ([[13 Medi]] [[533]]) gerllaw [[Carthago]], gorchfygodd [[Gelimer]], brenin y Fandaliaid. Enillodd fuddugoliaeth arall ym mrwydr Ticameron, ac ildiodd Gelimer tua dechrau [[534]].
 
Yn [[535]] gyrrwyd Belisarius ar ymgyrch i geisio adennill tiriogaethau'r Ymerodraeth Rufeinig yn y gorllewin. Glaniodd yn yr [[Eidal]], oedd ym meddiant yr [[Ostrogothiaid]] a chipiodd ddinas [[Rhufain]] yn [[536]], yna symudodd tua'r gogledd i gipio Mediolanum ([[Milano]] heddiw) yna yn [[540]] [[Ravenna]], prifddinas yr Ostrogothiaid. Dywedir i'r Ostrogothiaid gynnig derbyn Belisarius fel Ymerawdwr y Gorllewin; cymerodd yntau arno dderbyn y cynnig a defnyddio'r cyfle i gymeryd brenin yr Ostrogothiaid yn garcharor. Yn ddiweddarach galwyd ef o'r Eidal i wynebu ymgyrch Bersaidd yn [[Syria]] [[541]] -[[542]]).
 
Dychwelodd Belisarius i'r Eidal yn [[544]], lle roedd y sefyllfa wedi newid yn fawr, a'r Ostrogothiaid dan eu brenin newydd [[Totila]] wedi adfenniannu gogledd yr Eidal, yn cynnwys Rhufain. Llwyddodd Belisarius i ail-gipio Rhufain am gyfnod, ond roedd yr ymerawdwr yn amau ei deyrngarwch, a galwyd ef yn ôl o'r Eidal, gyda [[Narses]] yn cymeryd ei le.
 
Bu farw Belisarius yn [[565]]. Yn y Canol Oesoedd, dywedid fod Justinianus wedi gorchymyn dallu Belisarius, ac iddo ddiweddu ei oes fel cardotyn dall. Nid yw'r rhan fwyaf o haneswyr modern yn credu fod yr hanes yma'n wir.
 
 
Bu farw Belisarius yn [[565]]. Yn y Canol Oesoedd, dywedid fod Justinianus wedi gorchymyn dallu Belisarius, ac iddo ddiweddu ei oes fel cardotyn dall. Nid yw'r rhan fwyaf o haneswyr modern yn credu fod yr hanes yma'n wir.
 
[[Categori:Yr Ymerodraeth Fysantaidd]]