De Osetia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: canrifoedd a Delweddau using AWB
B →‎top: clean up
Llinell 4:
Tiriogaeth ddadleuol yn y [[Cawcasws]] yw '''De Ossetia''' ([[Osseteg]]: Хуссар Ирыстон, ''Khussar Iryston''; [[Georgieg]]: სამხრეთ ოსეთი, ''Samkhret Oseti''; [[Rwsieg]]: Южная Осетия, ''Yuzhnaya Osetiya''). Yn ôl [[cyfraith ryngwladol]], mae'n rhan ''[[de jure]]'' o weriniaeth [[Georgia]], ond mae'n weriniaeth annibynnol ''[[de facto]]'' gyda chysylltiadau agos â [[Gogledd Ossetia]], sy'n rhan o [[Rwsia|Ffederasiwn Rwsia]]. Yn hanesyddol, mae'n rhan o [[Ossetia]], un o sawl cenedl hanesyddol bychan yn y Cawcasws. [[Tskhinvali]] yw'r brifddinas. Nid yw gweriniaeth De Ossetia yn cael ei chydnabod gan wledydd eraill.
 
Mae tua 60-70% o'r boblogaeth yn [[Ossetiaid]], ac yn [[Islam|Fwslemiaid]] sy'n siarad iaith sy'n debyg i [[Perseg|Farsi]]. Mae gweddill y boblogaeth, yn bennaf yn y de, yn [[Georgiaid]].
 
Cyhoeddwyd gweriniaeth annibynnol De Ossetia gan wrthyfelwyr yn erbyn awdurdod Georgia yn [[2001]], ar ôl cyfnod o anghydfod a gwrthryfel. Erbyn heddiw mae tua 90% o boblogaeth y diriogaeth yn dal pasbortau Rwsiaidd, a hynny ar anogaeth Rwsia ei hun. Sefydlwyd llu heddwch yn y diriogaeth, yn cynnwys milwyr Rwsiaidd yn bennaf ac unedau o fyddin Georgia.