Oblast Murmansk: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 1 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q1759
B clean up
Llinell 4:
Un o [[oblast]]au [[Rwsia]] yw '''Murmansk''' ([[Rwseg]]: Му́рманская о́бласть, ''Murmanskaya oblast''). Ei chanolfan weinyddol yw dinas [[Murmansk]]. Poblogaeth: 795,409 (Cyfrifiad 2010).
 
Lleolir yr oblast yn ardal weinyddol y [[Dosbarth Ffederal Gogledd-orllewinol]], yn bennaf ar [[Penrhyn Kola|Benrhyn Kola]], ac mae'n rhan o ranbarth diwylliannol ''[[Lapland]]'' sy'n cynnwys pedair gwlad. Mae'n gorwedd bron yn gyfan gwbl i'r gogledd o [[Cylch yr Arctig|Gylch yr Arctig]]. Mae Oblast Murmansk yn ffinio gyda [[Karelia]], swydd [[Finnmark]] yn [[Norwy]] a Thalaith Lapland yn [[y Ffindir]]. Mae ganddo arfordir ar lan [[Môr Barents]] a'r [[Môr Gwyn]]. Mae Swydd [[Norrbotten]] yn [[Sweden]] yn agos hefyd (300  km).
 
Mae'r rhan fwyaf o diriogaeth yr ''oblast'' yn fryniog, gan godi i'w phwynt uchaf ym [[Mynyddoedd Khibiny]]. Yn y gogledd ceir ''[[tundra]]'', gyda ''[[taiga]]'' yn y de. Er gwaethaf ei leoliad gogleddol, mae'r hinsawdd yn llai oer na'r disgwyl oherwydd effaith [[Llif y Gwlff]].
 
Sefydlwyd Oblast Murmansk ar Fai 28, 1938. Mae'n ardal o bwys strategol i Rwsia; mae gan Llynges Ogleddol Rwsia ei phencadlys yn [[Severomorsk]], 25  km i'r gogledd o Murmansk.
 
== Dolenni allanol ==
Llinell 15:
 
{{comin|Category:Murmansk Oblast|Oblast Murmansk}}
 
{{eginyn Rwsia}}
 
[[Categori:Oblast Murmansk| ]]
[[Categori:Sefydliadau 1938]]
 
{{eginyn Rwsia}}