Cytundeb Warsaw: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Addbot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 71 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q41644 (translate me)
B →‎Hanes: clean up
Llinell 17:
== Hanes ==
 
Rheolwyd y cytundeb gan yr Undeb Sofietaidd, ac fe rwystrodd yr undeb y gwledydd eraill rhag gadael, er enghraifft yn ystod [[Chwyldro Hwngari, 1956|Chwyldro Hwngari ym 1956]]. Bwriadodd Hwngari adael y cytundeb i fod yn niwtral, ond daeth byddin yr Undeb Sofietaidd i'r wlad i atal y chwyldro rhag lwyddo.
 
Yn ystod [[Gwanwyn Prag]] ym [[1968]] aeth byddin Sofietaidd i Tsiecoslofacia er mwyn atal diwygiadau democrataidd yn y wlad. Felly, daeth polisi yr Undeb Sofietaidd ar gyfer Cytundeb Warsaw yn amlwg: sef, rhwystro pob aelod rhag troi yn wlad gyfalafol ([[Athrawiaeth Brezhnev]]).
 
Parhaodd y [[Rhyfel Oer]] am dros 35 o flynyddoedd, ond ni fu yr un frwydr rhwng gwledydd Cytundeb Warsaw a gwledydd NATO. Ym mis Rhagfyr [[1988]] datganodd [[Mikhail Gorbachev]], arweinydd yr Undeb Sofietaidd, athrawiaeth newydd yn lle Athrawiaeth Brezhnev. Ar ôl hynny gadawyd i bob aelod-wladwriaeth i ddilyn eu ffyrdd eu hunain. O ganlyniad, dechreuodd cyfnod o ddiwygiadau ym mhob un o'r gwledydd o [[1989]] ymlaen. Gadawodd nifer ohonyn nhw'r cytundeb bob yn ail er mwyn bod yn fwy annibynnol yn filwrol oddi wrth yr Undeb Sofietaidd. O ganlyniad diddymwyd y cytundeb ar [[1 Gorffennaf]] [[1991]].