Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Hanes Brasil"

Lleihawyd o 6 beit ,  4 o flynyddoedd yn ôl
B
→‎top: clean up
B (→‎top: canrifoedd a Delweddau, replaced: 19eg ganrif19g, 16eg ganrif16g (2) using AWB)
B (→‎top: clean up)
Dechreuodd '''hanes Brasil''' pan gyrraeddodd y bobl gyntaf tua 8,000 o flynyddoedd yn ôl o [[Asia]]; yr adeg honno roedd tir yn cysylltu Asia a chyfandir America yn y gogledd. Erbyn i'r Ewropeaid cyntaf gyrraedd yn y [[16g]], roedd dros 2,000 o lwythau gwahanol yn nhiriogaeth Brasil. Wedi dyfodiad y Portiwgeaid, lleihawyd niferoedd y brodorion yn fawr gan glefydau megis [[y frech wen]].
 
Credir mai'r Ewropead cyntaf i ddarganfod [[Brasil]] oedd y fforiwr [[Portiwgal|Portiwgeaidd]] [[Pedro Álvares Cabral]] ar [[22 Ebrill]], [[1500]]. O'r [[16g]] hyd y [[19g]] roedd Brasil yn rhan o ymerodraeth Portiwgal.
 
Yn [[1808]], bu raid i'r brenin [[Ioan VI, brenin Portiwgal|Ioan VI]] a theulu brenhinol Portiwgal ffoi pan feddianwyd y wlad gan [[Ffrainc]] dan [[Napoleon]]. O hynny hyd [[1821]], o [[Rio de Janeiro]] y gweinyddid ymerodraeth Portiwgal. Yn 1815, cyhoeddodd y brenin fod Portiwgal a Brasil yn un deyrnas unedig.
 
Ar [[7 Medi]], [[1822]], cyhoeddodd y wlad ei hun yn annibynnol, a daeth yn frenhiniaeth gyfansoddiadol dan yr enw [[Ymerodraeth Brasil]], gyda Pedro yn teyrnasu fel [[Pedro I, Ymerawdwr Brasil]]. Wedi i'r fyddin gipio grym yn [[1889]], daeth y wlad yn weriniaeth. Heblaw am dri cyfnod o lywodraeth unbennaidd yn 1930-1934; 1937-1945 a 1964-1985, mae wedi bod yn weriniaeth ddemoctataidd ers hynny.
 
{{eginyn Brasil}}
 
 
 
 
 
[[Categori:Hanes Brasil| ]]
452,433

golygiad