Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Hanes Ffrainc"

Lleihawyd o 6 beit ,  5 o flynyddoedd yn ôl
B
clean up
B (→‎top: canrifoedd a Delweddau using AWB)
B (clean up)
Yn y cyfnod clasurol, adnabyddid y dirigaeth sy'n awr yn [[Ffrainc]] fel [[Gâl]], ac fe'i preswylid gan nifer o lwythau neu wladwriaethau [[Y Celtiaid|Celtaidd]]. Yn [[125 CC]] ymosododd y Rhufeiniaid ar dde [[Gâl]], yn dilyn cais am gymorth gan drigolion dinas [[Marseille|Massilia]]. Erbyn 121 CC roeddynt wedi concro rhan dde-ddwyreiniol Gâl; yn ddiweddarch daeth y rhan yma yn dalaith Rufeinig dan yr enw [[Gallia Narbonensis]]. Concrwyd gweddill Gâl gan [[Iŵl Cesar]] mewn cyfres o ymgyrchoedd rhwng 58 CC a 51 CC. Y frwydr dyngedfennol oedd [[Brwydr Alesia]] yn 52 CC, pan orchfygodd Cesar gynghrair o lwythau Celtaidd dan arweiniad [[Vercingetorix]] o lwyth yr [[Arverni]].
 
Daeth Gâl yn rhan o'r [[Ymerodraeth Rufeinig]], a datblygodd diwylliant Galo-Rufeinig nodweddiadol yma. Daw enw presennol y wlad o'r [[Ffranciaidd]], yn wreiddiol yn nifer o lwythau Almaenig a ddaeth at ei gilydd mewn cynghrair, yn cynnwys y [[Saliaid]], [[Sicambri]], [[Chamavi]], [[Tencteri]], [[Chattuarii]], [[Bructeri]], [[Usipetes]], [[Ampsivarii]] a’r [[Chatti]]. Roeddynt yn byw ar lannau gogledd-ddwyreiniol [[Afon Rhein]], a chawsant eu defnyddio fel ''[[foederati]]'' gan yr ymerawdwr Rhufeinig [[Julian]] ([[358]]). Yn ddiweddarch llwyddasant i greu teyrnas dan yr enw ''Francia'' mewn ardal sy’n cynnwys [[Ffrainc]] a rhan orllewinol yr [[Almaen]].
 
Bu Ffrainc yn rhan o deyrnas [[Siarlymaen]] a'i fab [[Louis Dduwiol]]. Wedi marwolaeth Louis, rhannwyd ei deyrnas rhwng ei dri mab yng [[Cytundeb Verdun|Nghytundeb Verdun]]. Derbyniodd [[Siarl Foel]] Ffrancia Orllewinol, a ddaeth yn deyrnas Ffrainc yn ddiweddarach.
 
Yn [[1337]] dechreuodd rhyfel am orsedd Ffrainc rhwng Brenhinllin Plantaganet o [[Lloegr|Loegr]] a Brenhinllin Valois o Ffrainc, [[y Rhyfel Can Mlynedd]]. Parhaodd yr ymladd am 116 mlynedd, hyd [[1453]], ond gyda nifer o ysbeidiau byr o heddwch a dwy ysbaid hirach. Bu tua 81 mlynedd o ymladd i gyd. Diweddodd gyda'r Saeson yn cael eu gyrru allan o Ffrainc heblaw am [[Calais]], ond roedd rhannau helaeth o Ffrainc wedi eu hanrheithio.
 
Dymchwelwyd y frenhiniaeth gan [[y Chwyldro Ffrengig]] rhwng [[1789]] a [[1799]]. Cipiwyd grym gan [[Napoleon Bonaparte]] fel yr ymerawdwr Napoleon I, ac enillodd byddinoedd Ffrainc gyfres o fuddugoliaethau. Daeth y cyfnod o lwyddiannau i ben pan ymosododd Napoleon ar [[Rwsia]] yn [[1812]]; collwyd y rhan fwyaf o'r fyddin wrth geisio dychwelyd o Rwsia. Alltudiwyd Napoleon i [[Ynys Elba]] wedi iddo gael ei orchfygu ym [[Brwydr Leipzig|Mrwydr Leipzig]], a phan geisiodd dychwelyd, gorchfygwyd ef yn [[Brwydr Waterloo|Mrwydr Waterloo]] a'i alltudio i [[Ynys Sant Helena]]. Adferwyd y frenhiniaeth dros dro, yna daeth nai Napoleon yn ymerawdwr.
 
Yn [[y Rhyfel Byd Cyntaf]], bu ymladd anm flynyddoedd ar diriogaeth Ffrainc rhwng [[yr Almaen]] a Ffrainc a'i chyngheiriaid. Ymhlith brwydrau enwocaf byddinoedd Ffrainc yn y cyfnod yma mae [[Brwydr y Marne]] a [[Brwydr Verdun]]. Er i Ffrainc a'i chyngheiriaid fod yn fuddugol, dioddefodd y wlad golledion enbyd.
 
{{Hanes Ewrop}}
 
 
 
[[Categori:Hanes Ffrainc| ]]
595,650

golygiad