Normaniaid: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B canrifoedd a Delweddau, replaced: 9fed ganrif9g using AWB
B clean up
Llinell 1:
Pobl o ogledd [[Ffrainc]], â'u gwreiddiau yn [[Llychlyn]] (yn bennaf o [[Denmarc|Ddenmarc]]) oedd y '''Normaniaid''' (yn llythrennol: ''gwŷr y Gogledd''). Cyrhaeddasant Ffrainc yn ystod y [[9g]]. O dan [[Rollo, Dug Normandi|Hrolf Ganger]] dilynasant [[Siarl y Tew]], brenin Ffrainc. Newidiodd Hrolf ei enw i Rollo (sef ffurf Ffrangeg ar Hrolf) a chafodd dir ger aber [[Afon Seine|Seine]] gan y brenin. Daeth tir Rollo yn [[Ddugiaeth Normandi]] ym [[911]] a enwyd ar ôl y Normaniaid.
 
Derbyniodd y Normaniaid [[Cristnogaeth|Gristnogaeth]] yn grefydd a [[Ffrangeg]] yn iaith. Datblygodd eu diwylliant i fod yn wahanol iawn i ddiwylliant eu hynafiaid yn Llychlyn, ac yn wahanol hefyd i ddiwylliant pobl Ffrainc. Yr oedd Normandi yn ardal arbennig o ddeinamig a threfnus, ac o ganlyniad, llwyddodd y Normaniaid i goncro tiriogaeth enfawr ledled [[Ewrop]].
 
Yn nwyrain Ewrop, symudodd y Llychlynwyr (a adwaenid gan y pobl [[Slafig]] lleol wrth enw 'y Farangiaid) i ardal [[Kiev]].
 
==Y Normaniaid ym Mhrydain==
Llinell 16:
:''Prif erthygl - [[Y Normaniaid yng Nghymru]]''
 
O achos cwymp [[Gruffudd ap Llywelyn]] ym [[1063]] doedd Cymru ddim yn wlad gref pan gyrhaeddodd Gwilym Loegr. Sefydlodd iarllaethau yng [[Caer|Nghaer]], [[Amwythig]] ac [[Henffordd]]. Brwydrodd yr ieirll yn brwydro yn erbyn y Cymry, yn ehangu eu tir ac yn adeiladu cestyll. O ganlyniad daeth [[brenhiniaeth Gwent]] i ben ym [[1086]] ac aeth [[Gwynedd]] yn llai ac yn llai.
 
Serch hynny, cafodd rhai o reolwyr y Cymry eu cydnabod gan y brenin: [[Rhys ap Tewdwr]] yn [[Deheubarth|Neheubarth]] ac [[Iestyn ap Gwrgant]] ym [[Morgannwg]], ond newidiwyd y sefydliad ar ôl i Gwilym farw ym [[1087]]. Cipiwyd Morgannwg a Brycheiniog ac aeth [[Roger o Montgomery]], iarll Amwythig i dde [[Dyfed]] i godi [[castell Penfro]].
Llinell 22:
==Y Normaniaid ar gyfandir Ewrop==
:''Prif erthygl - [[Y Normaniaid ar gyfandir Ewrop]]''
 
 
 
[[Categori:Y Normaniaid| ]]