Al-Andalus: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B canrifoedd a Delweddau, replaced: 13eg ganrif13g using AWB
B clean up
Llinell 4:
Nid oes sicrwydd am darddiad yr enw, er y gall fod cysylltiad â’r [[Fandaliaid]]. O ''al-Andalus'' y daw enw y Gymuned Ymreolaethol fodern [[Andalucia]], ond ar un adeg yr oedd al-Andalus yn llawer ehangach na hynny.
 
Ar [[27 Ebrill]] yn y flwyddyn [[711]], glaniodd byddin Fwslimaidd o tua 9,000 o wyr yn [[Gibraltar]] (Yebel Tarik), dan arweiniad [[Tariq Ibn Ziyad]], dirpwy i Raglaw [[Tangier]], [[Musa ibn Nusair]]. Ar [[19 Gorffennaf]] gorchfygasant fyddin y [[Fisigothiaid]] , a lladdwyd [[Roderic]], brenin y Fisigothiaid. Y flwyddyn wedyn cyrhaeddodd Musa ibn Nusair ei hun gyda byddin arall. Yn y pum mlynedd nesaf, trwy gyfuniad o frwydro a gwneud cytundebau, daethant i reoli’r rhan fwyaf o Orynys [[Iberia]] ac eithrio yr ardaloedd mynyddig yn y gogledd.
 
Yn [[756]] daeth [[Abd al-Rahman I]] i [[Córdoba]] a sefydlodd linach a fu’n rheoli al-Andalus hyd [[1031]]. Creodd Abd al-Rahman Emirat Cordoba yn [[773]]. Yn [[912]], daeth [[Abd al-Rahman III]] i’r orsedd ac yn [[929]] cyhoeddodd ei hun fel [[Califf]].
 
Yn [[1031]] ymrannodd Al-Andalus yn nifer o deyrnasoedd llai, y ''Taifas'', o ganlyniad i ryfeloedd cartref ynglyn a’r olyniaeth. Bu nifer o ymosodiadau llwyddiannus o [[Gogledd Affrica|Ogledd Affrica]], megis yr [[Almorafidiaid]] a’r [[Almohadiaid]].
 
Rhwng [[718]] a [[1230]], ffurfiwyd y prif deyrnasoedd Cristionogol yn y gogledd: [[Castilla]], [[Portiwgal]], [[Navarra]] ac [[Teyrnas Aragon|Aragón]]. Yn raddol dechreuodd y Cristionogion ennill tiriogaethau oddi ar y Mwslimiaid, proses a elwir y [[Reconquista]]. Ystyrir i'r Reconquista ddechrau yn [[722]] pan enillodd [[Pelayo]] fuddugoliaeth dros y Mwslimiaid ym Mrwydr Covadonga, i sicrhau annibynniaeth [[Asturias]]. Dim ond yn araf yr oedd y Cristionogion yn adennill tir am gyfnod, ond cyflymodd y broses yn y [[13g]] ar ôl uno teyrnasoedd Castilla a [[Teyrnas León|León]] dan y brenin Fernando III. Erbyn canol y drydedd ganrif ar ddeg dim ond Teyrnas Granada oedd yn parhau yn eiddo'r Mwslimiaid. Diweddodd y Reconquista yn [[1492]] pan gipiodd y Cristionogion ddinas [[Granada]] a gorfodi ei brenin olaf, [[Boabdil]] (Abu 'Abd Allāh), i fynd i alltudiaeth.
 
=== Celfyddyd a gwyddoniaeth yn al-Andalus ===
Llinell 22 ⟶ 20:
== Dolenni allanol ==
* Darío Fernández-Morera: [http://www.mmisi.org/ir/41_02/fernandez-morera.pdf "The Myth of the Andalusian Paradise"], ''The Intercollegiate Review'', 2006
 
[[Categori:Al-Andalus| ]]