Epiros: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: canrifoedd a Delweddau using AWB
B →‎top: clean up
Llinell 3:
Ardal yng ngogledd-orllewin [[Gwlad Groeg]] a de [[Albania]] yw '''Epiros''' neu '''Epirus''' ([[Groeg (iaith)|Groeg]]: Ήπειρος ''Ēpeiros'', [[Groeg Dorig]]: Ἅπειρος ''Apeiros'', [[Albaneg]]: ''Epir'' neu ''Epiri''). Mae tua 80% ohono yng Ngwlad Groeg a 20% yn Albania. Ystyr yr enw Groeg yw "cyfandirol", i'w wahaniaethu oddi wrth yr ynysoedd oddi ar ei arfordir.
 
Ystyrir fod yr ardal hanesyddol yn ymestyn o Fae [[Vlorë]] yn Albania cyn gelled a [[Gwlff Arta]] yng Ngwlad Groeg. Ffurfir ei ffîn ddwyreiniol gan [[Mynyddoedd Pindus|Fynyddoedd Pindus]], sy'n ei wahanu oddi wrth [[Macedonia]] a [[Thessalia]]. Ardal fynyddig yw Epiros, gyda mynyddoedd calchfaen sy'n rhan o'r [[Alpau Dinarig]] ac sy'n cyrraedd uchder o 2,650 m.
 
Yn y cyfnod clasurol, roedd pobl Epiros yn byw mewn pentrefi, yn hyrach nag mewn dinas-wladwriaethau. Er y credir eu bod yn siarad Groeg, dirmygid yr Epiriaid gan y Groegwyr eraill. Er hynny, roedd i Epirus bwysigwydd, oherwydd mai yno yr oedd oracl enwog [[Dodona]]. Ffurfiwyd [[Teyrnas Epiros]]; ei brenin enwocaf oedd [[Pyrrhus, brenin Epirus|Pyrrhus]], a ddaeth i'r orsedd yn [[295 CC]], ac a fu'n brwydro yn erbyn [[Gweriniaeth Rhufain]] am chwe blynedd.