Arminius: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: canrifoedd a Delweddau, replaced: 19eg ganrif19g using AWB
B →‎top: clean up
Llinell 5:
Arweinydd Almaenig oedd '''Arminius''', hefyd '''Armin''', [[Almaeneg]] modern: '''Hermann''' ([[18 CC]]/[[17 CC]] - [[21]] OC). Mae'n fwyaf enwog am ei orchest yn dinistrio tair [[lleng Rufeinig]] ym [[Brwydr Fforest Teutoburg|Mrwydr Fforest Teutoburg]] yn [[9]] OC.
 
Roedd Arminius yn aelod o lwyth y [[Cherusci]] ac yn fab i'w pennaeth Segimerus. Bu'n ymladd dros Rufain, a rhoddwyd dinasyddiaeth Rufeinig iddo. Dychwelodd i'r Almaen a daeth yn arweinydd cynghrair o lwythau Almaenig i wrthwynebu Rhufain.
 
Yn 9 OC, enillodd ei fuddugoliaeth fwyaf yn [[Fforest Teutoburg]]. Ymladdwyd y frwydr dros nifer o ddiwrnodau, yn ôl pob tebyg rhwng [[9 Medi]] ac [[11 Medi]], a'r canlyniad oedd i dair [[lleng Rufeinig]] dan [[Publius Quinctilius Varus]], ([[Legio XVII]], [[Legio XVIII]] a [[Legio XIX]]), gael eu dinistrio'n llwyr gan yr Almaenwyr dan Arminius.
Llinell 11:
Roedd colledion y Rhufeiniaid yn fwy nag yn unrhyw frwydr yn erbyn gelyn allanol ers [[Brwydr Cannae]] yn erbyn [[Hannibal]]. Ni chafodd y tair lleng a ddinistriwyd eu hail-ffurfio. Yn ôl yr hanesydd Rhufeinig [[Suetonius]], gyrrwyd yr ymerawdwr [[Augustus]] bron yn wallgof gan y newyddion am y digwyddiad, gan daro ei ben yn erbyn muriau y palas a gweiddi ''Quintili Vare, legiones redde!'' ("Quintilius Varus, rho fy llengoedd yn ôl imi!")
 
Dilynwyd y frwydr gan saith mlynedd o ymladd, cyn i'r ffin gael ei sefydlogi ar hyd [[Afon Rhein]]. Ymladdodd Arminius yn erbyn [[Tiberius]], yna o [[14]] OC, wedi i Tiberius olynu Augustus fel ymerawdwr, yn erbyn nai Tiberius, [[Germanicus]]. Bu brwydro caled, ond enillodd Germanicus nifer o fuddugoliaethau dros Arminius, yn enwedig ger Idistoviso ar [[Afon Weser]] yn [[16]]. Gallodd adennill [[eryr (lleng)|eryr]] pob un o'r tair lleng a gollwyd ym Mrwydr Fforest Teutobug. Dymunai Germanicus barhau ei ymgyrchoedd yn [[Germania]], ond galwodd Tiberius ef yn ôl i Rufain a'i anfon ar ymgyrch yn y dwyrain.
 
Yn ddiweddarach, dechreuodd rhyfel rhwng Arminius a Marbod, brenin y Marcomanni. Gorfodd Arminius ei elyn i encilio, ond ni allai ei yrru allan o'i gadarnleoedd yn yr ardal a eleir yn [[Bohemia]] heddiw. Yn [[21]] llofruddiwyd ef gan aelodau o'i lwyth ei hun a'r [[Chatti]], oedd yn teimlo ei fod yn mynd yn rhy bwerus.
 
Yn y [[19g]], yn enwedig yn ystod y brwydro yn erbyn [[Napoleon]] ar ddechrau'r ganrif, daeth Arminius yn symbol o genedlaetholdeb Almaenig. Yn [[1839]], dechreuwyd adeiladu cerflun enfawr ohono, yr ''Hermannsdenkmal'', ar fryn gerllaw [[Detmold]] yn [[Fforest Teutoburg]].
 
 
[[Categori:Marwolaethau 21]]