Oppidum Manching: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: canrifoedd a Delweddau, replaced: 19eg ganrif19g using AWB
B →‎top: clean up
Llinell 1:
[[Delwedd:Oppidum manching osttor.JPG|bawd|de|250px|Model o'r porth dwyreiniol.]]
 
Roedd '''Oppidum Manching''' yn un o drefi caerog ([[Oppidum]]) [[y Celtiaid]], gerllaw [[Manching]] yn nhalaith [[Oberbayern]] yn [[yr Almaen]]. Nid oes cofnod beth oedd enw'r trigolion ar yr oppidum. Sefydlwyd yr oppidum yn y drydedd ganrif CC. a pharhaodd tan tua 50−30 CC.. Yn ystod cyfnod y [[diwylliant La Tène]] yn ail hanner yr ail ganrif CC., cyrhaeddodd yr oppidum ei maint mwyaf, gydag arwynebedd o tua 380 hectar. Yr adeg honno credir fod 5,000 hyd 10,000 o bobl yn byw tu mewn i'r muriau, oedd yn 7.2 km o hyd; felly roedd Manching yn un o'r trefi mwyaf i'r gogledd o'r [[Alpau]]. Yn wahanol i'r rhan fwyaf o'r ''oppida'', roedd ar wastadedd yn hytrach nag ar fryn, gerllaw'r fan lle mae [[Afon Paar]] yn llifo i mewn i [[Afon Donaw]]. Efallai fod Manching yn brifddinas llwyth y [[Vindeliciaid]].
 
Bu rhywfaint o gloddio archaeolegol yn y [[19g]]. Dinistriwyd cryn dipyn o'r safle pan adeiladwyd maes awyr milwrol yn 1936−38. Ers [[1955]] mae llawer o gloddio wedi bod ar y safle, ac ystyrir mai Manching sydd wedi ei harchwilio'n fwyaf trylwyr o holl ''oppida'' canolbarth Ewrop.