Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Awstria-Hwngari"

Lleihawyd o 1 beit ,  5 o flynyddoedd yn ôl
B
→‎top: clean up
B (→‎top: canrifoedd a Delweddau using AWB)
B (→‎top: clean up)
Unwyd [[Awstria]] a [[Hwngari]] trwy briodas [[Anna o Fohemia]] (merch [[Wladislaus II, brenin Hwngari|Vladislav II]], brenin [[Bohemia]] a Hwngari) a'r archddug [[Ferdinand I, Ymerawdwr Glân Rhufeinig|Ferdinand I]], brawd yr [[Ymerawdwr Glân Rhufeinig]] [[Siarl V, Ymerawdwr Glân Rhufeinig|Siarl V]] yn [[1526]]. Yn ddiweddarach daeth Ferdinand yn Ymerawdwr Glân Rhufeinig wedi i'w frawd ymddiswyddo.
 
Daeth yr Ymerodraeth Lân Rhufeinig i ben yn [[1806]], a ffurfiwyd Ymerodraeth Awstria. gyda Hwngari yn rhan ohoni. Roedd yr Hwngariaid yn anfodlon ar hyn, ac wedi i Awstria gael ei gorchfygu gan deyrnas [[Prwsia]] yn [[1866]], daethpwyd i gytuneb (yr ''[[Ausgleich]]'') yn [[1867]], lle rhoddodd yr ymerawdwr [[Frans Jozef I, Ymerawdwr Awstria|Frans Jozef]] yr un statws i Hwngari ac i Awstria.
 
Rhoddodd hyn statws cyfartal i Awstriaid a Hwngariaid, a gradd uchel o ymreolaeth o fewn y systen ffederal, ond roedd y grwpiau ethnig eraill, megis y Tsieciaid, yn anfodlon ac yn mynnu'r un statws. Yn [[1914]], llofruddiwyd yr archddug [[Franz Ferdinand]] yn [[Sarajevo]] (yn [[Bosnia a Herzegovina]]), gan ddechrau'r gadwyn o ddigwyddiadau a arweiniodd ar y [[Rhyfel Byd Cyntaf]]. Bu farw Frans Jozef yn [[1916]], ac olynwyd ef gan [[Siarl I, Ymerawdwr Awstria|Siarl I]]. Ar ddiwedd y rhyfel, ymddatododd Awstria-Hwngari, gyda [[Tsiecoslofacia]], [[Awstria]] a [[Hwngari]] yn dod yn wledydd annibynnol a rhannau eraill yn dod yn eiddo [[Romania]], [[yr Eidal]] a [[Gwlad Pwyl]].
595,650

golygiad