Peloponnesos: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: canrifoedd a Delweddau using AWB
B →‎top: clean up
Llinell 3:
Penrhyn yn ne [[Gwlad Groeg]] ac un o [[Periffereiau Groeg|Beriffereiau]] Groeg yw'r '''Peloponnesos''' ([[Groeg (iaith)|Groeg]]: Πελοπόνησος ''Pelopónnisos''). Ffurfia'r rhan o dir mawr Groeg sydd i'r de o [[Gwlff Corinth]], ac fe'i cysyllrir a'r gweddill o dir mawr Groeg gan [[Isthmws Corinth]]. Ers adeiladu [[Camlas Corinth]] yn [[1893]], gellir ei ystyried yn dechnegol yn [[ynys]]. Nid yw Perifferi Peloponnesos yn cynnwys y cyfan o'r Peloponnesos daearyddol; mae rhan o hwnnw ym mheriffereiau [[Gorllewin Groeg]] ac [[Attica]].
 
Heblaw am y cysylltiad dros y tir, neu yn awr ar draws Camlas Corinth, cysylltir y Peloponnesos a'r gweddill o Wlad Groeg gan bont, [[Pont Rio-Antirio]] a orffenwyd yn 2004, ar draws Gwlff Corinth.
 
Mae gan y Peloponnesos arwynebedd o 21,549 km² (8,320 milltir sgwar). Ardal fynyddig ydyw; y copa uchaf yw Mynydd [[Taygetus]]. Mae pedwar penrhyn, [[Messenia]], [[Penrhyn Mani]], [[Penrhyn Malea]] (neu Epidaurus Limera), ac [[Argolis]].