Buddug (Boudica): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: canrifoedd a Delweddau, replaced: 18fed ganrif18g using AWB
B clean up
Llinell 2:
Brenhines arwrol [[Rhestr o lwythau Celtaidd|llwyth Celtaidd]] [[Iceni|yr Iceni]], a flodeuai yn y ganrif gyntaf yn ne-ddwyrain [[Lloegr]], oedd '''Buddug''' (hefyd ''Boudica'', ''Boudicca'' neu ''Boadicea'').
 
Roedd [[Britannia]], y rhan o [[Prydain|Brydain]] a oedd dan reolaeth [[Rhufain]], yn cael ei llywodraethu gan y rhaglaw (y 'procuradur') Rhufeinig llygredig [[Catus]] yn enw y llywodraethwr [[Gaius Suetonius Paulinus|Suetonius Paulinus]], a oedd yng ngogledd [[Cymru]] yn brwydro yn erbyn y [[derwyddon]] ym [[Môn]]. Pan fu farw [[Prasutagas]], gŵr Buddug, dechreuodd Catus anrheithio yr Iceni a'u tiroedd.
 
Yn O.C. 61 cipiodd Catus Fuddug a'i ddwy ferch ifanc a'u fflangellu yn gyhoeddus ac yna eu treisio. Mewn canlyniad cododd yr Iceni mewn gwrthryfel yn erbyn y Rhufeiniaid. Dan arweiniad Buddug, a oedd yn rhyfelwraig ddewr, gorchfygodd yr Iceni y nawfed lleng, [[Legio IX Hispana]]. Aethant yn eu blaen i gipio [[Verulamium]] ([[St Albans]]), y brifddinas Rufeinig ar y pryd [[Camelodunum]] ([[Colchester]]), ynghyd â porthladd [[Londinium]] ([[Llundain]]).
Llinell 13:
*Ian Andrews, ''Boudicca's Revolt'' (Llundain, 1972)
*Graham Webster, ''Boudicca: The British Revolt Against Rome'' (Llundain, 1978)
 
 
 
[[Categori:Marwolaethau 61]]