Crannog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: canrifoedd a Delweddau, replaced: 9fed ganrif9g using AWB
B clean up
Llinell 3:
Mae '''crannog''' neu '''crannóg''' yn sefydliad ar ynys, artiffisial fel rheol ond weithiau naturiol, mewn llyn. Daw'r enw o'r gair [[Gwyddeleg|Gwyddeleg Canol]] ''crannóc'', o ''crann'', "coeden".
 
Prif fantais crannog oedd ei bod yn hawdd i'w hamddiffyn. Gellir cyrraedd at y crannog ar hyd cob neu dros bont o bren. Credir fod yr esiampl hynaf, [[Eilean Domhnuill]] yn Loch Olabhat ar ynys [[Gogledd Uist]], yn dyddio o 3200-2800 CC.<ref name="Armit 1996">{{cite book|last=Armit |first=Ian |year=1996 |title=The Archaeology of Skye and the Western Isles |publisher=Edinburgh University Press}}</ref><ref name="Armit 2003">{{cite book|last=Armit |first=Ian |year=2003 |chapter=The Drowners: permanence and transience in the Hebridean Neolithic |editor1-first=I. |editor1-last=Armit |editor2-first=E. |editor2-last=Murphy |editor3-first=D. |editor3-last=Simpson |title=Neolithic Settlement in Ireland and Western Britain |publisher=Oxbow |location=Oxford}}</ref> Mae'r rhan fwyaf ohonynt i dyddio o [[Oes yr Haearn]] a'r Canol Oesoedd Cynnar.
 
Yn [[Iwerddon]] a'r [[Alban]] y ceir y rhan fwyaf ohonynt, ond mae un neu ddwy o esiamplau yng Nghymru, yn [[Llyn Syfaddan]], [[Llangors]], [[Powys]] ac yn 'Crofft-y-Bwla', [[Trefynwy]]. Roedd teulu brenhinol [[Brycheiniog]] o darddiad Gwyddelig, ac efallai fod hyn yn egluro presenoldeb crannog, sy'n dyddio o ddiwedd y [[9g]], yma. Ymddengys y cranogau [[Iwerddon|Gwyddelig]] cyntaf yng nganol yr Oes Efydd, a hynny yn [[Ballinderry]] (1200–600 CC).<ref>National handbook of underwater archaeology gan Carol Ruppé, Jan Barstadch</ref> Ceir 1,200 ohonynt yn Iwerddon.
 
==Crofft-y-Bwla, Trefynwy==
Yn 2012, tra'n tyllu mewn ystâd o dai o'r enw 'Parc Glyndŵr' yng nghanol [[Trefynwy]], darganfu Martin Tuck o Gymdeithas Archaeoleg Trefynwy olion crannog - tŷ enfawr, hir; mae'r ystâd o dai hwn ar dir fferm 'Crofft-y-Bwla'. Yn 2015 datgelwyd fod yr olion mor hen â'r [[Oes Efydd]] ac y bu yno waith adeiladu cychod mewn llyn enfawr, sydd wedi diflannu ers canrifoedd. Darganfuwyd ffosydd twfn, metr o led, yn sianeli hirion dros bridd a losgwyd ac a ddyddiwyd i [[Oes Newydd y Cerrig]] gan system dyddio radiocarbon: 5,000 o flynyddoedd yn ôl (2,917 CC). Mae hyn yn golygu fod y crannog hwn yn Nhrefynwy yn 2,000 o flynyddoedd yn hŷn nag unrhyw anhediad-llyn drwy Lloegr a Chymru ac yn 300 mlynedd cyn adeiladu [[pyramid|pyramidiau]]iau'r [[Aifft]].
 
Cafwyd hyd hefyd i lawer o olion preswylio o [[Oes y Cerrig]] a'r cyfnod pan y bu'r [[Rhufeiniaid yng Nghymru]].<ref>[http://www.walesonline.co.uk/news/wales-news/ancient-lakeside-settlement-older-pyramids-9702162#ICID=sharebar_twitter www.walesonline.co.uk;] adalwyd 2015</ref>
Llinell 15:
Yn Ionawr 2016 datgelodd [[archaeoleg]]wyr o [[Prifysgol Caergrawnt|Brifysgol Caergrawnt]] eu bod wedi darganfod olion cranogau mewn cyflwr arbennig o dda yn [[Dwyrain Anglia|Nwyrain Anglia]] mewn man a elwir yn 'Must Farm Quarry' yn y gwlybdiroedd a elwir yn ''fenland'' (neu ''fens''), sef math o gors. Mae'r olion hyn wedi'u dyddio i 3,000 o flynyddoedd yn ôl h.y. i'r Oes Efydd (1200-800 CC), ac yn cynnwys cartref, a fyddai wedi cynnwys sawl teulu, ar stilts pren uwch ben y dŵr.<ref>[https://www.cam.ac.uk/research/news/bronze-age-stilt-houses-unearthed-in-east-anglian-fens#sthash.op9HKzA9.dpuf Gwefan Prifysgol Caergrawnt;] adalwyd Ionawr 2016</ref>
 
Llosgwyd yr adeilad gwreiddiol yn ulw gan dân mawr a achosodd i'r adeilad ddisgyn i'r llyn, neu afon, a chadwyd y pren dros y blynyddoedd yn y mwd, heb iddynt bydru. Cafwyd hyd i decstiliau a wnaed o ffibr planhigion, cwpanau bychan, prin, bowleni a jariau cyfan gyda bwyd ynddynt. Cafwyd hefyd mwclis o wydr, sy'n dangos fod gan y gymuned Geltaidd hon sgiliau soffistigedig, uwch nag a geir fel arfer yn y cyfnod hwn. Yn ôl yr archaeolegwyr, mae'r crannog hwn mewn cyflwr gwell nag unrhyw un arall ym Mhrydain.
 
Lleolir y maes archaeolegol ar dir sydd a'i arwynebedd yn 1,100 metr sgwâr, ac mae'r darganfyddiadau tua dwy fetr yn is na lefel modern y ddaear. Oddeutu'r cartref crwn ceir olion palis (neu fur) a oedd unwaith yn ei warchod.<ref>[http://www.mustfarm.com/bronze-age-timber-platform/progress/archive/ mustfarm.com;] adalwyd 12 Ionawr 2016</ref>
Llinell 29:
[[Categori:Hanes yr Alban]]
[[Categori:Safleoedd archaeolegol]]
[[Categori:Safleoedd archaeolegol Iwerddon|* ]]
[[Categori:Safleoedd archaeolegol yr Alban|* ]]
[[Categori:Y Celtiaid]]