Túath: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎Gweler hefyd: newidiadau man using AWB
B →‎top: clean up
Llinell 1:
Yng nghymdeithas gynnar a chanoloesol [[Iwerddon]], [[llwyth]] dan reolaeth [[brenin]] oedd y '''''túath'''''. Mae ''túath'' ([[IPA]]: {{IPA|/tuaθ/}}, lluosog: ''túaithe'') yn air [[Gwyddeleg]] sy'n gytras â'r gair 'tylwyth' yn [[Gymraeg]] a'r gair [[Celteg]] *''teutā'' (gwraidd enw'r duw Galaidd [[Teutates]]). 'Llwyth', sef grŵp o bobl sy'n perthyn i'w gilydd o ran gwaed a charennydd, yw'r cyfieithiad arferol ond gall olygu 'mân-deyrnas' hefyd.
 
Yn ôl tystiolaeth yr achau Gwyddelig traddodiadol, amcangyfrifodd yr ysgolhaig F. J. Byrne fod tua 150 ''túath'' yn Iwerddon ar unrhyw un adeg rhwng y 5ed ganrif hyd at y 12fed a dyfodiad y [[Normaniaid]]. Mae ymchwil mwy diweddar yn awgrymu fod y ffigwr yn agosach i 80. A derbyn y bu gan yr ynys boblogaeth o tua hanner miliwn, mae hynny'n awgrymu fod tua 3,000 o bobl, yn ddynion, merched a phlant ar gyfartaledd yn aelodau o unrhyw un ''túath''.
 
Rheolid y ''túath'' gan frenin. Weithiau byddai brenin y ''túath'' yn arglwydd ar frenhinoedd ''túaithe'' eraill hefyd. Ceir enghreifftiau o ymgynghreirio rhwng un ''túath'' a'i gymydog yn ogystal.