Vercingetorix: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: canrifoedd a Delweddau using AWB
B →‎top: clean up
Llinell 1:
[[Delwedd:Vercingetorix.jpg|bawd|200px|Cofgolofn Vercingetorix yn Alesia (Alise-Sainte-Rein)]]
 
Roedd '''Vercingetorix''' (bu farw [[46 CC]]) yn bennaeth [[Gâl|Galaidd]] o lwyth yr [[Arverni]] a ddaeth yn arweinydd y Galiaid yn eu gwrthwynebiad i'r [[Ymerodraeth Rufeinig]].
 
Dechreuodd [[Iŵl Cesar]] ar ei ymgyrchoedd i goncro Gâl pan benodwyd ef yn llywodraethwr talaith [[Gallia Narbonensis]] yn 58 CC. Erbyn dechrau 52 CC roedd wedi concro rhan helaeth o'r wlad, ond roedd nifer o lwythau yn cynllunio gwrthryfel. Llwyth y [[Carnutes]] dan [[Cotuatus]] a [[Conetodunus]] a ymosododd ar y Rhufeiniaid gyntaf.
 
Ni wyddir llawer am hanes cynnar Vercingetorix ei hun. Roedd o deulu uchelwrol yn [[Gergovia]], ac roedd ei dad, [[Celtillus]], wedi cael ei ddienyddio am geisio cipio grym iddo'i hun. Pan ddechreuodd y gwrthryfel, cododd Vercingetorix fyddin o'i ddilynwyr i ymuno yn yr ymladd, ond gwrthododd prif arweinwyr y ddinas, yn cynnwys ei ewythr [[Gobanitio]], ymuno, ac alltudiwyd Vercingetorix o'r ddinas. Gyda chymorth y bobl gyffredin, llwyddodd Vercingetorix i gipio Gergovia a chyhoeddwyd ef yn frenin.
 
Apwyntiwyd Vercingetorix yn arweinydd y gwrthryfel Galaidd, a llwyddodd i orchfygu Cesar a [[Titus Labienus]] mewn nifer o frwydrau bach. Llwyddodd y Rhufeiniaid i gipio prifddinas y llwyth, Avaricum ([[Bourges]] heddiw). Enillodd Vercingetorix fuddugoliaeth ym [[Brwydr Gergovia|mrwydr Gergovia]], ond pan ymosododd ar y Rhufeiniaid dan gredu eu bod yn encilio, dioddefodd y Galiaid golledion sylweddol.
 
Enciliodd Vercingetorix i [[Alesia]], a gosododd Cesar warchae arno. Adeiladodd y Rhufeiniaid fur o amgylch y ddinas, gyda mur allanol i atal unrhyw ymgais gan y Galiaid tu allan i Alesia i godi'r gwarchae. Ceisiodd byddin fawr o nifer o lwythau godi'r gwarchae, ond gorchfygwyd hwy gan Cesar, a bu raid i Vercingetorix ildio. Cadwyd ef yn garcharor yn [[Rhufain]] am bum mlynedd cyn ei ddienyddio.
 
Ystyrir ef yn un o arwyr cededlaethol [[Ffrainc]], ac yn [[1865]] cododd yr ymerawdwr
[[Napoleon III]] gofgolofn iddo ar safle Alesia.
 
== Llyfryddiaeth ==