Rachel Roberts: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
B →‎top: clean up
Llinell 15:
Actores o [[Cymry|Gymraes]] oedd '''Rachel Roberts''' ([[20 Medi]] [[1927]] – [[26 Tachwedd]] [[1980]]).
 
Cafodd ei geni yn [[Llanelli]], yn ferch i weinidog gyda'r [[Bedyddwyr]]. Gwrthryfelodd yn erbyn ei thad yn ifanc. Astudiodd yng [[Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth|Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth]] ac yna yn [[RADA]]. Gwnaeth ei marc fel actores pan gymerodd ran yn y [[ffilm]] ''[[Saturday Night and Sunday Morning]]''. Priododd [[Alan Dobie]] (1955–1961) yn gyntaf ac yna rhwng [[1962]] a [[1971]] bu'n briod i'r actor [[Rex Harrison]]. Wedi ei phriodas i Harrison cafodd iselder meddwl, gan na fedrai gael plant na rhan actio.
 
Derbyniodd Wobr yr Academi Ffilm Prydeinig am ei rhan yn actio Brenda yn ffilm Karel Reisz ''Saturday Night and Sunday Morning'' (1960).<ref name="Wales. 2008 pg769">''Y Bywgraffiadur Cymreig''. John Davies, Nigel Jenkins, Menna Baines a Peredur Lynch (2008) p. 769 ISBN 978-0-7083-1953-6</ref> Ac am ei rôl fel Mrs Hammond yn ''[[This Sporting Life]]'' (1963), derbyniodd BAFTA ac enwebwyd hi am Oscar.
 
Cyflawnodd hunanladdiad yn ei chartref yn [[Los Angeles]] ar 26 Tachwedd 1980 drwy lyncu cemegolion a chyffuriau.<ref name="NYT">{{Cite news |title=Rachel Roberts Ruled a Suicide |work=[[The New York Times]] |date=1981-01-06 |url=http://query.nytimes.com/gst/fullpage.html?sec=health&res=9B0CEFDE173BF935A35752C0A967948260 |accessdate=2008-08-17}}</ref>
 
== Ffilmiau ==