George Thomas: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llefarydd Tŷ'r Cyffredin (Y Deyrnas Unedig)
B clean up
Llinell 1:
Gwleidydd Llafur oedd '''Thomas George Thomas, Is-iarll Tonypandy''' ([[29 Ionawr]], [[1909]] - [[22 Medi]], [[1997]]); bu'n Aelod Seneddol rhwng 1945 a 1983, yn [[Ysgrifennydd Gwladol Cymru]] (5 Ebrill 1966 - 5 Ebrill 1968) ac yn [[Llefarydd Tŷ'r Cyffredin (Y Deyrnas Unedig)|Llefarydd y Tŷ'r Cyffredin]] (3 Chwefror 1976 – 10 Mehefin 1983). Ef, yn anad neb arall, a groesawodd [[Arwisgiad Tywysog Cymru]] yn 1969; roedd twf [[Plaid Cymru]] a [[Cymdeithas yr Iaith|Chymdeithas yr Iaith]] yn ofid i'r Blaid Lafur a gwelodd George Thomas, Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar y pryd, gyfle i wrthweithio'r tyfiant hwn drwy drefnu arwisgo'r tywysog yng Nghaernarfon yn 1969.
 
Fel is-Weinidog yng Nghabined [[Harold Wilson]] ef oedd un o'r cyntaf i gyrraedd [[Trychineb Aberfan]] yn 1966. Daeth i sylw'r cyhoedd pan ddechreuwyd darlledu trafodaethau'r Tŷ'r Cyffredin ag yntau'n Llefarydd.
 
==Y person==
Llinell 8:
Roedd ei dad yn feddwyn a adawodd ei wraig, gan ei gadael i fagu pump o blant ar ei phen ei hun. Magwyd George Thomas gan ei fam ym mhentref [[Trealaw]] yn groes i'r afon o dref Tonypandy. Mynychodd Ysgol Ramadeg Tonypandy, 1920-27. Bu'n athro heb drwydded yn [[Dagenham]] cyn dilyn cwrs hyfforddi athrawon ym Mhrifysgol Southampton rhwng 1929 a 1931.
 
Ymunodd â'r Blaid Lafur ym 1924 a thraddododd ei araith wleidyddol gyntaf pan oedd yn ddeunaw oed i 'Gynghrair Cydweithredol Merched Tonypandy'.
 
Ymddeolodd o wleidyddiaeth yn 1983 ond yn 2014-5 cafwyd nifer o gyhuddiadau ei fod wedi bocha gyda phlant mewn modd rhywiol.<ref>[http://www.bbc.co.uk/cymrufyw/33123011 Gwefan y BBC;] adalwyd 9 Awst 2015</ref> Datgelodd cydaelod Seneddol Leo Absey yn ei lyfr ''Tony Blair: The Man Behind the Smile'' ychydig wedi i George Thomas ymddeol o wleidyddiaeth ei fod yn hoyw a'i fod wedi talu nifer o bobl i fod yn dawel am y wybodaeth yma, rhag ei wneud yn gyhoeddus.<ref name="blair">
{{cite book|last=Abse|first=Leo|authorlink=Leo Abse|year=2001|title=''Tony Blair: The Man Behind the Smile''|publisher=Robson Books|isbn=1-86105-364-9}}</ref>
 
==Cyfeiriadau==
Llinell 28:
 
{{Rheoli awdurdod}}
 
 
{{eginyn gwleidyddiaeth}}
{{eginyn Cymry}}
 
{{DEFAULTSORT:Thomas, George}}
Llinell 35 ⟶ 39:
[[Categori:Ysgrifenyddion Gwladol Cymru]]
[[Categori:Gwleidyddion y Blaid Lafur (DU)]]
{{eginyn gwleidyddiaeth}}
{{eginyn Cymry}}