Calvert Jones: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Comin
B clean up
Llinell 3:
Roedd '''Calvert Jones''' ([[4 Rhagfyr]] [[1804]] – [[7 Tachwedd]] [[1877]]) yn enedigol o [[Abertawe]] ac yn [[Ffotograffiaeth|ffotograffydd]], yn [[mathemateg|fathemategydd]] ac yn [[paentio|arlunydd]] a arbenigai mewn tirluniau o'r [[arfordir]]. Dywedir mai ef oedd y cyntaf i dynnu llun 'ffotograff' yng Nghymru: math 'Daguerreotype' a hynny o [[Margam|Gastell Margam]] yn 1841. Roedd hefyd yn arlunydd dyfrlliw medrus ac y mae ei waith yn dangos 'teimlad cryf am liw a ffurf' yn ôl Iwan Meical Jones.
 
Roedd ei rieni'n gyfoethog iawn, ac yn hanu o [[Abertawe]]. Fe'i addysgwyd yng [[Coleg Eton|Ngholeg Eton]] ac yng [[Coleg Oriel, Rhydychen|Ngholeg Oriel, Rhydychen]] lle graddiodd yn y dosbarth cyntaf mewn mathemateg. Wedi gadael y coleg, aeth yn rheithor yng [[Casllwchwr|Gasllwchwr]] ac yn [[y Rhath]] am gyfnod. Roedd yn gyfaill i [[John Dillwyn Llewelyn]] y [[botaneg]]ydd a'r ffotograffydd cynnar; cyfaill arall iddo o'i ddyddiau coleg oedd [[Christopher Rice Mansel Talbot]], etifedd ystad fawr [[Margam]] a [[Pen-rhys|Phen-rhys]]. Drwy'r cyfeillgarwch hwn y daeth i wybod am ddarganfyddiadau eu cefnder [[William Henry Fox Talbot]] o Abaty Lacock, [[Wiltshire]], dyfeisiwr y dull positif-negatif o wneud ffotograff.<ref name="ReferenceA">['Y Bywgraffiadur Cymraeg Arlein'; [[Llyfrgell Genedlaethol Cymru]].</ref>
[[Delwedd:Calvert Richard Jones Kolosseum.jpg|320px|bawd|Llun a dynnwyd gan Cavlert Jones o'r Colosseum yn [[Rhufain]] yn Ionawr 1846.]]
 
==Ffotograffiaeth==
Gan nad oedd proses Talbot wedi'i berffeithio, trodd yn gyntaf at y dull ''daguerrotype'' gan berffeithio'r grefft erbyn 1841. Drwy'r [[1840au]] cydweithiodd gyda Talbot a chyda [[Ffrainc|Ffrancwyr]] fel Hippolyte Bayard a bu'n ddolen gyswllt anhepgor rhwng arloeswyr Ffrainc a gwledydd Prydain. Erbyn 1846 yr oedd wedi troi at broses ''calotype'' Talbot. A dyma'i waith mwyaf nodedig, y ffotograffau ''calotype'' a dynnodd ddiwedd yr [[1840au]] ar [[Ynys Malta]], yn [[yr Eidal]] ac o gwmpas gwledydd Prydain. Danfonai'r negyddion at Talbot i'w hargraffu a'u gwerthu.<ref>['Y Bywgraffiadur Cymraeg Arlein'; [[Llyfrgell Genedlaethol Cymru]].<name="ReferenceA"/ref>
 
==Ewrop ac yn ôl==
Teithiodd yn helaeth, gan gynnwys [[Ffrainc]] a'r [[Eidal]] gan ddatblygu techneg ei hun i greu llun ar ffurf panorama. Ymddiddorai hefyd mewn cerddoriaeth.
 
Yn 1847 etifeddodd llawer o diroedd ac Ystad Heathfield yn ardal Abertawe yn 1847 a dychwelodd adref. Adeiladodd strydoedd yng nghanol y ddinas, gan goffáu ei hanner brawd yn enw "Stryd Mansel" a'i ail wraig yn enw "Stryd Portia". Gadawodd Abertawe yn 1853 a byw ym [[Brwsel|Mrwsel]].
 
Bu iddo un ferch o'i briodas gyntaf a dwy o'r ail briodas â Portia.
 
==Marwolaeth==
Llinell 25:
*Casgliad Abaty Lacock
*Bath City Reference Library MSS 1010-1012 (dyddiadur ei wraig gyntaf)
*I. M. Jones , Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, 1990 , 117-72.
 
==Cyfeiriadau==
Llinell 32:
 
{{CominCat|Calvert Jones}}
 
{{DEFAULTSORT:Jones, Calvert}}
[[Categori:Genedigaethau 1804]]